Ar-lein, Mae'n arbed amser

Datgarboneiddio

Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais i’r sector gyhoeddus fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030 mewn ymateb i newid hinsawdd. 

Mae effeithiau newid hinsawdd yn barod yn ffurfio’n bywydau. Wrth i nwyon Tŷ Gwydr gynyddu, mae Merthyr Tudful wedi profi pob un o brif symptomau newid hinsawdd gan gynnwys patrymau tywydd cyfnewidiol, llygredd aer, tywydd poeth iawn a newid mewn bioamrywiaeth.

Mae costau economaidd a chymdeithasol wedi dod yn sgil hyn wrth i fusnesau a phreswylwyr ymrafael â phroblemau fel niwed yn sgil llifogydd ac ymyriadau i’w bywydau beunyddiol.

Bydd Cyngor Merthyr Tudful yn cefnogi’r uchelgais hon drwy weithredu nifer o fentrau a phrosiectau Datgarboneiddio a fydd yn gostwng Allyriadau Carbon a’r effeithiau ar Newid Hinsawdd.   

Rydym eisoes wedi dechrau’r daith. Mae nifer o fentrau Datgarboneiddio yn barod wedi cychwyn fel gweithrediad mesurau effeithlonrwydd ynni a hynny ar raddfa fawr mewn adeiladau, arbrofi â defnyddio cerbydau trydan a gosod goleuadau stryd ynni effeithlon.

Rydym hefyd yn gweithio ag Arbenigwr Ynni er mwyn cynorthwyo i baratoi cynllun ar gyfer y Cyngor a map ffordd a fydd yn ein galluogi i chwarae’n rôl a sicrhau fod y Sector Gyhoeddus yng Nghymru yn dyfod yn Garbon Niwtral erbyn  2030.

Newid Hinsawdd

Os na fydd hyn yn cael ei reoli, bydd newid hinsawdd yn effeithio ar fywydau beunyddiol pawb sydd yn byw ar y blaned; o dymheredd uwch i gynnydd yn lefel y môr a thywydd mwy eithafol. Mae’r fideo hon yn disgrifio mewn rhagor o fanylder: 

 

Gwneud ein rhan

Trosolwg byr o’r camau cyfredol y mae’r Cyngor yn eu cymryd er mwyn dyfod yn garbon niwtral:

  • Gosod mesurau Effeithlonrwydd Ynni yn 32 o adeiladau’r Cyngor trwy fframwaith REFIT Cymru, Llywodraeth Cymru.
  • Mae gan wasanaethau’r rheng flaen yn awr nifer o gerbydau trydanol ac mae strategaeth ein Fflyd yn ceisio cefnogi pontio i fflyd sy’n gyfangwbl drydanol erbyn 2030. Mae’r defnydd o gerbydau trydan yn cynorthwyo’n uniongyrchol i leihau allyriadau carbon. https://www.youtube.com/watch?v=JVM2S_Xb-Y4
  • Mae Tîm Cefn Gwlad y Cyngor yn ymroddedig i blannu dros 1000 o goed mewn mannau agored, ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae llawer iawn o natur fel coed a pherthi yn amsugno carbon deuocsid yn naturiol yn ystod ffotosynthesis ac felly mae gwarchod y tir yn hanfodol i’r broses o ddatgarboneiddio.  
  • Mae’r Tîm Gwasanaethau Eiddo yn archwilio i ddichonolrwydd adeiladu Ysgolion Cynradd ac Uwchradd Sero-Net.
  • Mae panelu Solar PV wedi cael eu gosod yn ein Canolfannau Ailgylchu er mwyn lleihau’r defnydd o ynni ac allyriadau carbon.

Am ymholiadau cyffredinol ynghylch datgarboneiddio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, cysylltwch â: Decarbonisation@merthyr.gov.uk

Polisi a Deddfau Allweddol

Cynhesu Byd-eang - 1.5 C

Ffyniant i bawb: Cymru sydd yn ymwybodol o’r Hinsawdd

Deddf Ynni 2013

Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016

Tystiolaeth o Newid Hinsawdd

Isod, gweler ambell gyfeiriad at ffynonellau sydd yn trafod y dystiolaeth o newid hinsawdd.

Cyfoeth Naturiol Cymru / Datganiad Ardal

Cyflwr Hinsawdd y DU – y Swyddfa Dywydd

Diogelu Hinsawdd y DU – y Swyddfa Dywydd

Strategaethau a Chynlluniau Cysylltiedig

Cynllun Rheoli Carbon 2019

Polisïau Cynllunio Ychwanegol

Cynllun Corfforaethol

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol  / Cynllun Gweithredu Adfer Natur

Cynllun Datblygu Lleol

Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd

 

Cysylltwch â Ni