Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cynghorau Cymuned

Cynghorau cymuned neu dref yw'r lefel llywodraeth mwyaf lleol yng Nghymru a Lloegr. Y prif sefydliad yng Nghymru yw Un Llais Cymru, sy'n darparu llais cryf sy'n cynrychioli diddordebau cynghorau cymuned a thref ac ystod o wasanaethau o ansawdd uchel i gefnogi eu gwaith.

Cyngor Cymuned Bedlinog a Trelewis yw'r unig gyngor cymuned ym Merthyr Tudful, ac mae ei aelodau etholedig yn darparu cyswllt rhwng cymunedau lleol Bedlinog a Threlewis a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Maent yn cynnal cyfarfodydd misol y mae croeso i'r cyhoedd eu mynychu, a chyhoeddir y dyddiadau ymlaen llaw.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael trwy gysylltu â Mr Ryan James, Clerc i'r Cyngor

Cysylltwch â Ni