Ar-lein, Mae'n arbed amser
Canlyniadau ymgynghoriad cyllideb 2025/26
Diolch i bawb a gymerodd yr amser i ddweud eu dweud ar yr Ymgynghoriad ar y Gyllideb eleni – cawsom dros 1,500 o drigolion yn cymryd rhan eleni, sef ein nifer uchaf eto.
Mae'r lluniau isod yn dangos canlyniad yr Ymgynghoriad. Mewn perthynas â chwestiwn Treth y Cyngor, pleidleisiodd 36% o bobl i dorri gwasanaethau i gadw Treth y Cyngor i’r lleiafswm, gyda’r 64% arall yn dewis cynnal gwasanaethau, hyd yn oed os yw’n golygu cynnydd yn Nhreth y Cyngor.
O ran gwasanaethau, cafodd Addysg ei nodi fel y brif flaenoriaeth, gan dderbyn 98.7% o'r pleidleisiau. Adfywio Ffisegol gafodd y lleiaf o bleidleisiau, sef 37.4%.
Byddwn yn cymryd hyn i ystyriaeth wrth gynllunio cyllideb y flwyddyn nesaf.

