Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ymgynghoriad Cyllideb 2026/27

Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn ymgynghori â thrigolion ar eu barn ar flaenoriaethau darparu gwasanaethau a gosod y Dreth Gyngor ar gyfer y Flwyddyn Ariannol ganlynol.

Eleni bydd yr ymgynghoriad mewn dau gam:

  • Cam 1: Yn ystod Cam 1 rydym yn gofyn i chi raddio gwasanaethau’r Cyngor yn y drefn y maent bwysicaf i chi a sut rydych chi'n meddwl y dylem osod y Dreth Gyngor.
  • Cam 2: Gan ddefnyddio'r wybodaeth a gasglwyd yng Ngham 1, byddwn yn cyflwyno cynigion arbed arian i chi ddweud eich dweud arnynt.

SYLWER:

  • Mae'r arolwg hwn yn agored i drigolion Merthyr Tudful yn unig a bydd yn cau ar 30 Medi 2025.
  • Bydd cam 2 yr ymgynghoriad hwn yn dechrau ym mis Tachwedd 2025.

Am copïau papur ffoniwch 01685 725000.