Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ffioedd Tacsi Merthyr Tudful 2026
Adolygwyd a diwygiwyd ffioedd tacsi Merthyr Tudful ddiwethaf ym mis Ebrill 2017. Ers hynny, nid yw'r Awdurdod wedi cynyddu'r ffioedd hyn, er mwyn cefnogi'r fasnach yn ystod pandemig Covid a newidiadau yn y farchnad danwydd.
Mae'r gyfraith yn caniatáu i'r Awdurdod Lleol adennill cost trwyddedu tacsis trwy ffioedd trwydded. Yn dilyn adolygiad ar 4 Mawrth 2026, cytunodd y Cyngor Llawn i gynnig cynnydd mewn ffioedd trwyddedu tacsis, yn amodol ar ymgynghoriad, yn effeithiol o 1 Mai 2026. Byddai'r ffioedd hyn yn adennill cost lawn gweinyddu'r cynllun trwyddedu.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cydnabod yn llawn y rôl bwysig y mae ein masnach tacsis yn ei chwarae i'n cymunedau, felly rydym yn croesawu eich adborth gwerthfawr ar y cynigion.