Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ymgynghoriad Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg Newydd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ymgynghori ar gynigion i sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yng ngogledd y Fwrdeistref Sirol.

Mae'r cynnig yn gyfle pwysig i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg ym Merthyr Tudful drwy gynyddu nifer y lleoedd ysgol cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i deuluoedd lleol a gwella mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y Fwrdeistref Sirol. Wrth wneud hynny, bydd yn cefnogi gweledigaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg a chynyddu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i sicrhau lleoedd ysgol digonol ac addas yn y Fwrdeistref Sirol ac i sicrhau bod adnoddau a chyfleusterau'n cael eu defnyddio'n effeithiol i ddarparu'r cyfleoedd addysgol gorau posibl i blant a phobl ifanc.

Mae'r Ddogfen Ymgynghori a'r Asesiad Effaith Integredig yn esbonio'r cynnig yn fanwl ac yn nodi sut y byddai'r ysgol newydd yn cynyddu argaeledd addysg cyfrwng Cymraeg, yn gwella hygyrchedd i deuluoedd ac yn cefnogi twf yn y dyfodol mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i ddysgu mwy am y cynnig i sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yng ngogledd y Fwrdeistref Sirol. Mae'n esbonio'r cynnig, sut y gallwch gyflwyno eich barn, a sut y gallwch gymryd rhan yn y broses ymgynghori. Dyma'ch cyfle i ofyn cwestiynau a dweud eich dweud.

Mae'r Cyngor yn croesawu sylwadau gan yr holl bartïon â diddordeb. Bydd yr holl ymatebion a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgynghori yn cael eu hystyried yn ofalus cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud ar sut i symud ymlaen.

Cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud, mae'r Cyngor eisiau sicrhau bod pob parti â diddordeb yn cael y cyfle i fynegi eu barn a rhoi adborth ar y cynnig.

Mae'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn unol â gofynion Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a Chod Trefniadaeth Ysgolion 2026.

Mae'r Ddogfen Ymgynghoriad ac Asesiad Effaith Cyfannol yn esbonio'r cynnig mewn manylder ac yn amlinellu sut fydd yr ysgol newydd yn cynyddu argaeledd addysg cyfrwng Cymraeg, gwella mynediad ar gyfer teuluoedd ac yn cefnogi twf addysg cyfrwng Cymraeg y dyfodol o fewn yr Awdurdod Lleol

Darllenwch y DDAU ddogfen isod cyn bwrw ymlaen â'r ymgynghoriad. 

Dogfen Ymgynghori

Asesiad Effaith Integredig

Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhedeg o ddydd Llun 19 Hydref tan ddydd Sul 29 Tachwedd 2026. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, rhowch wybod i ni yn schoolorganisation@merthyr.gov.uk

Cysylltwch â Ni