Ar-lein, Mae'n arbed amser
Deisebau
Mae'r broses deisebu'n galluogi aelodau o'r cyhoedd i godi pryderon sy'n bwysig iddynt.
Cyn cyflwyno deiseb dylech:
Gysylltu â’r
- Cyngor er mwyn gweld a fyddai cais am wasanaeth yn datrys yr achos
- Cysylltu gyda chynghorydd yr etholaeth berthnasol i weld os oes modd iddynt roi cymorth i chi
- Sicrhau eich bod yn dilyn Protocol Deisebau’r Cyngor
Beth yw Deiseb?
Gall deiseb ymwneud ag unrhyw achosion y mae gan y Cyngor bwerau neu ddyletswyddau yn eu cylch. Maent yn ffordd o awgrymu newid neu ddylanwad drwy:
- Godi ymwybyddiaeth ynghylch materion sydd o bwys i chi
- Dylanwadu ar newid i bolisi’r Cyngor neu’r modd y mae gwasanaeth yn cael ei ddarparu
- Arwain at drafodaeth yn y Cyngor; neu
- Annog pwyllgor neu Gynghorydd i weithredu dros yr achos eu hunain
Sut i gyflwyno deiseb
Gellir cyflwyno deiseb drwy un o’r ffyrdd canlynol:
- Gellir creu e-ddeisebau a darllen drwyddynt drwy ddolen e-ddeisebau’r Cyngor. Ni fyddant yn cael eu derbyn o systemau deisebau ar-lein eraill.
- Mae deisebau papur yn ffordd o gasglu llofnodion cefnogwyr ar restr. Gallwch ddefnyddio ein templed deiseb argraffadwy ond os ydych yn defnyddio eich templed eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys manylion y mater ar frig pob tudalen.
Gellir cyflwyno deisebau papur naill ai:
- Trwy'r post i'r Gwasanaethau Democrataidd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN
- Trwy e-bost democratic@merthyr.gov.uk; neu
- Wedi'i gyflwyno yn y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN neu i'ch Cynghorydd lleol
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn derbyn unrhyw atebolrwydd am y deisebau ar y tudalennau gwe hyn. Nid yw'r farn a fynegir yn y deisebau o reidrwydd yn adlewyrchu barn y darparwyr.