Ar-lein, Mae'n arbed amser

Deisebau

Mae’r broses ddeisebau’n galluogi aelodau’r cyhoedd i ddylanwadu’n uniongyrchol ar y broses wleidyddol a mynegi pryderon sy’n bwysig iddyn nhw.

Gall unrhyw un sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio ym Merthyr Tudful, gan gynnwys pobl dan 18 oed, arwyddo neu drefnu deiseb. Fodd bynnag, rhaid bod yn 10 oed i allu arwyddo’r ddeiseb.

Gall aelodau’r cyhoedd gyflwyno deisebau ar y canlynol:

  • Materion sy’n ymwneud â chyfrifoldebau’r Cyngor.
  • Materion sy’n effeithio ar y Fwrdeistref neu gymunedau ym Merthyr Tudful, cyhyd â bod gan y Cyngor rywfaint o ddylanwad ar y mater.
  • Unrhyw beth sy’n ymwneud â gwella lles economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol yr ardal y gallai unrhyw un o bartneriaid y Cyngor gyfrannu ato.

Bydd y Cyngor yn ymateb i’r holl ddeisebau sy’n ei gyrraedd. Byddwn mor hyblyg â phosibl wrth drafod eich deiseb er mwyn ei hystyried yn gyflym ac yn y ffordd fwyaf priodol.

Sut ydw i’n cyflwyno deiseb?

Gall deisebau fod naill ai ar ffurf bapur neu electronig. Bydd y cyngor yn cydnabod pob deiseb a anfonir ato neu a gyflwynir iddo ymhen 14 diwrnod o’i chael. Bydd y gydnabyddiaeth hon yn nodi’r camau rydym yn bwriadu’u cymryd gyda’r ddeiseb.

Rhaid i ddeisebau papur gynnwys y manylion y mae'r ddeiseb am fynd i'r afael â nhw ar ben pob tudalen fel bod hynny'n amlwg bod pawb sy'n llofnodi yn gwybod am beth maen nhw'n llofnodi.  Anfonwch ddeisebau wedi'u cwblhau:

Gwasanaethau Democrataidd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Canolfan Ddinesig
Stryd y Castell
Merthyr Tudful
CF47 8AN

Cyn belled â'i fod yn cwrdd â'r holl ofynion y cyfeirir atynt uchod, byddwn hefyn yn derbyn copiau wedi'u sganio o ddeisebau yn ystod pandemig Covid y gellir eu hanfon at: democratic@merthyr.gov.uk

Beth fydd y Cyngor yn ei wneud ar ôl cael fy neiseb?

Byddwn yn cydnabod y ddeiseb ymhen 14 diwrnod o’i chael ac yn rhoi gwybod i drefnydd y ddeiseb am y camau rydym yn bwriadu’u cymryd.

Beth ydw i’n gallu’i wneud os nad ydw i’n meddwl y cafodd y ddeiseb ei thrafod yn briodol?

Os ydych o'r farn nad ydym wedi ymdrin â’ch deiseb yn briodol, mae hawl gan drefnydd y ddeiseb wneud cais i’r Bwrdd Craffu gynnal adolygiad ar y camau y mae’r Cyngor wedi’u cymryd mewn ymateb i’ch deiseb.

Bydd y Bwrdd Craffu’n ystyried eich cais ymhen 30 diwrnod o’i gael. Os ydy aelodau o’r farn nad yw’r Cyngor wedi ymdrin â’ch deiseb yn ddigonol, gall arfer ei rymoedd i ymdrin â’r mater.

Mae’r grymoedd hyn yn cynnwys cynnal ymchwiliad, cynnig argymhellion i’r grŵp gweithredol neu drefnu ystyried y mater mewn cyfarfod y cyngor llawn.

Cysylltwch â Ni