Ar-lein, Mae'n arbed amser

Datblygu Cydweithredol

Mae llawer o bobl a chymunedau o fewn y Cyngor Bwrdeistref yn cael eu heithrio rhag chwarae rôl lawn yn eu cymunedau eu hunain. Mae’r rhesymau dros hyn yn gymhleth ac yn amrywio ac mae’r effeithiau’n cael eu lledaenu ledled y cymunedau. Mae’r Adran Datblygu Cymunedol yn ymroddedig i dargedu’r grwpiau hyn a eithrir i sicrhau bod ganddynt y cyfle i chwarae rôl lawnach. Mae’r Adran yn targedu’r grwpiau hynny a gaiff eu heithrio mewn modd cadarnhaol ac yn sicrhau fod y cymorth perthnasol yn cael ei ddarparu, gan gynnwys:

  • Gweithio’n agos â phartneriaethau lleol a strategol i sicrhau bod anghenion grwpiau ac unigolion a gaiff eu heithrio rhag darpariaeth brif ffrwd yn cael y flaenoriaeth.
  • Cysylltu’r Cyngor ac adrannau asiantaeth eraill â grwpiau a phartneriaethau lleol i sicrhau bod adnoddau’n cael eu targedu’n well.
  • Darparu rhaglenni hyfforddi a datblygu wedi eu cynllunio ar anghenion lleol ac yn canolbwyntio arnynt.

Mae’r Adran Datblygu Cymunedol wedi ei rhannu’n dair adran er mwyn datblygu’r gwaith hwn. Sef:-

  • Cymunedau yn Gyntaf
  • Economi Cymdeithasol – Mentrau Merthyr
  • Dysgu Cymunedol – Uned ‘New Deal’ a Chanolfan Ddysgu Gymunedol