Ar-lein, Mae'n arbed amser

Manylion am Bwyllgorau Cydweithredol Rhanbarthol

Gwybodaeth ynghylch Grŵp Cydweithredol Cymorth Tai Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg 

Rôl Grŵp Cydweithredol Cymorth Tai Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg o fewn y rhaglen Grant Cymorth Tai: 

Mae Grwpiau Cydweithredol Cymorth Tai Rhanbarthol yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru parthed gwariant Grantiau Cymorth Tai yn eu hardal. Maent yn derbyn eu gwybodaeth gan awdurdodau lleol unigol. Grwpiau ymgynghorol yn unig ydynt, nid oes ganddynt bwerau gweithredol nac ariannol.

Drwy greu Grŵp Cydweithredol Cymorth Tai Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi cysylltu â nifer o randdeiliaid yn Rhondda Cynon Taf a Phen-y-Bont er mwyn creu darlun lleol a rhanbarthol o anghenion a blaenoriaethau traws-ffiniol sy’n hysbysu’r modd y mai prosiectau rhanbarthol yn datblygu. 

Mae Grwpiau Cydweithredol Cymorth Tai Rhanbarthol yn cysylltu rhanddeiliaid allweddol ar draws pob rhanbarth.

Mae 6 Grŵp Cydweithredol Cymorth Tai yng Nghymru:

  • Caerdydd a’r Fro
  • Blaenau Gwent
  • Y Canolbarth a’r Gorllewin
  • Gorllewin Morgannwg
  • Cwm Taf Morgannwg
  • Gogledd Cymru

Mae pob un o’r Grwpiau Cydweithredol Cymorth Tai Rhanbarthol yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, iechyd, y gwasanaeth prawf, darparwyr gwasanaethau Grantiau Cymorth Tai a landlordiaid ac mae hefyd yn cynnwys rhywun sy'n cynrychioli dewis defnyddwyr y gwasanaeth.

Mae Grwpiau Cydweithredol Cymorth Tai Rhanbarthol yn gyfrifol am gynhyrchu Datganiad Rhanbarthol Blynyddol. Mae’r datganiad yn cymryd i ystyriaeth flaenoriaethau lleol mewn perthynas â gwaith rhanbarthol a gwaith gyda phartneriaid a nodir y modd mwyaf effeithiol o ymateb i anghenion lleol.

Disgrifir rôl y Grwpiau Cydweithredol Cymorth Tai Rhanbarthol mewn rhagor o fanylder yng Nghanllawiau Grant Cymorth Tai (Cymru).

Am ragor o wybodaeth, defnyddiwch y ffurflen ‘Cysylltwch â Ni’ ar ochr y dudalen hon.