Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (GDMAC)
Mae GDMAC sydd yn cael eu cyflwyno gan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn caniatáu i’r Cyngor a’i bartneriaid ymdrin â niwsans penodol mewn ardal benodol sydd yn cael effaith niweidiol ar ansawdd bywyd y gymuned leol. Gall wahardd ambell beth neu ei wneud yn ofynnol i bethau penodol gael eu gwneud.
Wrth benderfynu os dylai gorchymyn gael ei wneud, dylai’r awdurdod lleol ystyried dau beth:
Yn gyntaf, os yw’r ymddygiad yn cael effaith niweidiol neu’n debygol o gael y fath effaith. Yn ail, os yw effaith/effaith tebygol y gweithgareddau o natur barhaus gan beri i’r ymddygiad fod yn afresymol a chyfiawnhau’r hysbysiad.
Gall fod yn gymwys i bob unigolyn neu fod yn gyfyngedig i ambell unigolyn a gall gael ei gyfyngu i amseroedd penodol. Ni all GDMAC barhau am yn fwy na 3 mlynedd ond gall gael ei adnewyddu os oes angen. Gall methiant i gydymffurfio â’r gorchymyn arwain at ddirwy neu hysbysiad cosb benodedig.
Rhestrir y GDMAC sydd mewn grym yn ardal y Cyngor, isod:
- GDMAC Rhif 1 – 2021 – Gosod gât ar y lôn wrth eiddo preswyl yn Stryd Tomas Uchaf ym Merthyr Tudful
- GDMAC Rhif 2 - 2021 – Gosod gât ar y lôn y tu ôl i Stryd Tomos Uchaf a Stryd yr Undeb ym Merthyr Tudful
- GDMAC Rhif 3 – 2021 – Gosod gât y tu ôl i Stryd Tomos Isaf a Stryd yr Undeb (Maes Gwlad yr Haf) ym Merthyr Tudful
- GDMAC Rhif 4 – 2021 – Gosod gât ar y lôn y tu ôl i Stryd Wiliam a Stryd Mari ym Merthyr Tudful
- GDMAC Rhif 5 – 2021 – Gosod gât ar y lôn y tu ôl i Stryd Rees ym Merthyr Tudful