Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (GDMAC)
Mae GDMAC sydd yn cael eu cyflwyno gan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn caniatáu i’r Cyngor a’i bartneriaid ymdrin â niwsans penodol mewn ardal benodol sydd yn cael effaith niweidiol ar ansawdd bywyd y gymuned leol. Gall wahardd ambell beth neu ei wneud yn ofynnol i bethau penodol gael eu gwneud.
Wrth benderfynu os dylai gorchymyn gael ei wneud, dylai’r awdurdod lleol ystyried dau beth:
Yn gyntaf, os yw’r ymddygiad yn cael effaith niweidiol neu’n debygol o gael y fath effaith. Yn ail, os yw effaith/effaith tebygol y gweithgareddau o natur barhaus gan beri i’r ymddygiad fod yn afresymol a chyfiawnhau’r hysbysiad.
Gall fod yn gymwys i bob unigolyn neu fod yn gyfyngedig i ambell unigolyn a gall gael ei gyfyngu i amseroedd penodol. Ni all GDMAC barhau am yn fwy na 3 mlynedd ond gall gael ei adnewyddu os oes angen. Gall methiant i gydymffurfio â’r gorchymyn arwain at ddirwy neu hysbysiad cosb benodedig.