Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Cynllun Integredig Sengl

Ein Gweledigaeth ar gyfer Merthyr Tudful

Atgyfnerthu safle Merthyr Tudful fel canolfan ranbarthol Blaenau’r Cymoedd, a bod yn rhywle i ymfalchïo ynddo lle mae:

  • Pobl yn dysgu a datblygu sgiliau i wireddu eu huchelgeisiau;
  • Pobl yn byw, yn gweithio, a chanddynt fywyd diogel, iach a llawn; a
  • Phobl yn ymweld, yn mwynhau ac yn dychwelyd.
Ein Canlyniadau Blaenoriaeth
  • Mae pobl ym Merthyr Tudful yn cael y cyfle a’r dyhead i ddysgu a datblygu eu sgiliau er mwyn gwneud y mwyaf o’u potensial;
  • Pobl ym Merthyr Tudful yn elwa ar economi gref, gynaliadwy ac amrywiol;
  • Pobl sy’n byw ac yn gweithio ym Merthyr Tudful yn cael eu cefnogi i fwynhau ansawdd bywyd iachach a gwell;
  • Pobl yn mwynhau cael lle bywiog, deniadol, diogel a chynaliadwy i fyw ynddo, i weithio, chwarae ac ymweld ag ef.

Cafodd y Cynllun Integredig Sengl ar gyfer Merthyr ei gymeradwyo gan Fwrdd Gwasanaeth Lleol (BGLl) Merthyr Tudful yn ei gyfarfod ar 28 Mawrth 2013. Yn dilyn ei gymeradwyo gan Gyngor Llawn CBSMT ar 24 Ebrill 2013; cyflwynwyd y Cynllun yn raddol ar draws y Fwrdeistref Sirol.

Arweiniwyd yr ymgynghoriad statudol/cyhoeddus a wnaed rhwng Ionawr a Mawrth 2013 ar y cyd gan y Cydlynydd Ymgynghori (yn gweithio i Fyrddau Gwasanaeth Lleol Merthyr Tudful a RhCT a’r Swyddog Creu’r Cysylltiadau yn Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful); roedd hyn yn brawf o ddull gweithredu mewn partneriaeth wrth ddatblygu’r Cynllun.

Mae datblygu a chyflawni’r Cynllun Integredig Sengl yn cynnig her newydd i’r BGLl a’i aelod-sefydliadau. Nid cynllun datblygu sefydliad unigol neu adran unigol yw hwn – dyma’r prif gynllun trosfwaol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol ac mae gennym i gyd ddyletswydd i’w gyflawni.

Bydd BGLl Merthyr Tudful yn gyfrifol am sicrhau fod y Cynllun yn cael ei gyflawni ar gyfer pobl Merthyr Tudful drwy weithio gydag ystod eang o bartneriaid. Mae rhai o’r negeseuon allweddol i’w hystyried nid yn unig wrth ddatblygu’r Cynllun ond wrth ei gyflwyno hefyd, fel a ganlyn:

  • Mae’r Cynllun yn seiliedig ar angen, nid galw a gyda lefel yr angen yn y gymuned bu’n her i’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol adnabod y blaenoriaethau i’w cyflawni;
  • Rhaid i’r BGLl roi ei adnoddau ar atal ac ymyriad cynnar yn hytrach na gwella, gan newid canlyniadau yn hytrach na datrys problemau;
  • Rhaid i ni roi sylw i anghenion y boblogaeth gyfan ond gyda sylw manwl ar grwpiau sydd dan anfantais, yn hawdd eu niweidio ac mewn perygl o fod yn hawdd eu niweidio;
  • Mae’r Cynllun yn seiliedig ar weithredu mewn partneriaeth ac ni all y problemau mwyaf taer a nodwyd yn y Cynllun gael eu datrys gan wasanaethau yn gweithio mewn seilos.

Un gofyniad allweddol yw y bydd datblygu a chyflwyno’r Cynllun Integredig Sengl yn dod o dan gylch gwaith arolygu Swyddfa Archwilio Cymru, AGGCC, ESTYN ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Bydd yn agored i graffu hefyd a rhoddwyd trefniadau yn eu lle a fydd yn cael eu datblygu ymhellach yn y misoedd nesaf.

Dysgu i Fyw

Yn nhyb y BGLl, “Dysgu i Fyw” yw’r flaenoriaeth greiddiol allweddol ar gyfer y Cynllun Integredig Sengl gan y bydd yn helpu i wireddu’r weledigaeth i Ferthyr Tudful a’r canlyniadau blaenoriaeth. Yr uchelgais yw bod yr holl blant, pobl ifanc ac oedolion yn gwneud y mwyaf o’u potensial, yn gallu gwrthsefyll amgylchiadau sy’n newid ac aros yn annibynnol cyn hired ag y bo modd.

Mae manteision addysg dda a dysgu effeithiol yn bellgyrhaeddol ac yn para’n hir a dengys ymchwil fod:

  • Addysg yn rhoi’r sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen i sicrhau gwaith o ansawdd uchel;
  • Addysg yw’r catalydd ar gyfer llewyrch economaidd lleol;
  • Mae addysg wrth galon gofal iechyd o safon, cost isel;
  • Mae addysg yn helpu i frwydro yn erbyn arwahanrwydd cymdeithasol, mae’n hyrwyddo cynhwysiant, ac yn cyfrannu at gydlyniant cymunedol; ac
  • Mae addysg yn allweddol wrth helpu i wrth-droi dirywiad mewn cymunedau difreintiedig, gan helpu i feithrin ymdeimlad cryf o gymuned fwy diogel.

Uchelgais y Bwrdd Gwasanaeth lleol fel ag y’i nodwyd yn y Cynllun Integredig Sengl felly yw:

  • Gwella cyrhaeddiad a chyflawniad pob plentyn, person ifanc ac oedolyn a helpu pob un i gyrraedd eu potensial;
  • Gwella’r amgylchedd dysgu; a
  • Gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau ffisegol, ariannol a dynol.

Mae’r pwysau ariannol ar y sector cyhoeddus ac effaith diwygio lles yn debygol o effeithio ar gyflawni’r Cynllun Integredig Sengl. Mae’r gofyniad i gynnal adolygiad blynyddol o’r Cynllun Integredig Sengl yn werthfawr iawn; bydd hyn yn ein galluogi i adlewyrchu cyhoeddiadau am y gyllideb yn y dyfodol a sicrhau fod modd cyflawni’r canlyniadau a nodwyd o fewn y Cynllun.

Grŵp Llywio’r Cynllun Integredig Sengl (CIS)

Gwnaed gwaith pellach i roi strwythur cyflawni effeithiol yn ei le, y trefniadau rheoli perfformiad, trefniadau craffu a’r trefniadau adolygu blynyddol er mwyn sicrhau gweithredu a chyflawni’r Cynllun Integredig Sengl.

Yn dilyn adolygu’r strwythur partneriaeth presennol, cynhyrchwyd adroddiad a oedd yn cynnig 2 opsiwn a oedd yn bodloni’r angen a welwyd i newid y strwythur cyflawni presennol. Cyflwynwyd hyn yng nghyfarfod y BGLl ar 26/09/2014, a chytunodd yr aelodau ar strwythur newydd i gyflawni’r Cynllun Integredig Sengl i Ferthyr Tudful, a fyddai’n cynnwys:

  • Cryfhau’r BGLl gyda’r aelodaeth ychwanegol yn adlewyrchu canlyniadau a meysydd blaenoriaeth y Cynllun Integredig Sengl; a
  • Sefydlu Grŵp Llywio’r Cynllun Integredig Sengl yn lle Bwrdd Partneriaeth Merthyr Tudful. Byddai’r aelodaeth a gynigir yn adlewyrchu pob un o’r meysydd blaenoriaeth a adnabuwyd o fewn y Cynllun Integredig Sengl. (Bydd y Grŵp hwn yn ymgymryd hefyd â swyddogaeth y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol).

Cytunwyd hefyd y byddai Grŵp Llywio’r Cynllun Integredig Sengl yn cael ei gadeirio gan y Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Adran y Prif Weithredwr yn yr Awdurdod Lleol, sydd â chyfrifoldeb dros bartneriaethau. Bydd Grŵp Llywio’r CIS yn cael cefnogaeth aelodau’r Tîm Partneriaeth yn yr Awdurdod Lleol ynghyd â’r Swyddog Creu Cysylltiadau yn Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful.

Rôl y Grŵp Llywio fydd:

  • Adolygu cynnydd ar gyflawni’r Cynllun Integredig Sengl;
  • Derbyn Cardiau Adroddiad y CIS ar sail gylchol cyn adrodd ymlaen i’r BGLl;
  • Galluogi adnabod problemau a heriau yn gynnar ar draws y partneriaid i gyd;
  • Adrodd am unrhyw broblemau perthnasol a phynciau na chawsant eu datrys i’r “Eiriolwr” priodol ac (os oes angen) y BGLl;
  • Gweithredu fel cyswllt/sianel rhwng swyddogion sy’n cyflawni ar flaenoriaethau’r Cynllun Integredig Sengl a’r BGLl;
  • Cyfrannu at a chefnogi Adolygiad Blynyddol y Cynllun Integredig Sengl a’r Asesiad Anghenion Unedig; a
  • Gweithredu fel dolen gyswllt rhwng y BGLl, y CIS a’r sefydliadau partner - gan sicrhau fod y Cynllun Integredig Sengl yn dod yn fusnes i bawb.
Trefniadau Rheoli Perfformiad

Yn unol â chanllawiau “Cydamcanu – Cydymdrechu”, bydd angen i’r BGLl fonitro cyflawni’r CIS yn rheolaidd, a chynnal adolygiad blynyddol o’r CIS a’r Asesiad Anghenion Unedig. Yn ôl y canllaw, “Ni ddylai gweithgarwch rheoli perfformiad greu biwrocratiaeth newydd ond dylai wella’r ffordd o reoli systemau sy’n bodoli eisoes a sicrhau mwy o gysondeb rhyngddynt. Dylid canolbwyntio ar sicrhau bod partneriaid yn defnyddio’r wybodaeth yn adeiladol i reoli eu perfformiad cydweithredol a sicrhau canlyniadau”.

Yn unol â’r pedwar canlyniad blaenoriaeth o fewn y CIS a’r Flaenoriaeth sylfaenol (Dysgu i Fyw), cynigir y bydd pob cyfarfod CIS yn cael ei strwythuro’n bennaf o amgylch un o ganlyniadau’r Cynllun.

Drafftiwyd Cerdyn Adrodd yn dilyn egwyddorion RBA i Grŵp Llywio’r CIS ei ystyried. Gwnaed pob ymdrech i gyd-fynd â’r fformat a’r cynnwys a fabwysiadwyd gan RhCT er mwyn hwyluso gwaith y partneriaid o adrodd ar berfformiad. Bydd gwybodaeth a gedwir ar yr Uned Ddata Llywodraeth Leol – System Wybodaeth Leol yn helpu yn hyn o beth pan gaiff ei datblygu. Bydd angen canolbwyntio ar ddeilliannau a pha wahaniaeth a wneir i bobl Merthyr Tudful. Cynigir for yr Arweinydd Blaenoriaeth yn cyflwyno’r Cerdyn Adrodd perthnasol i’r BGLl yn y cyfarfod priodol.

Os hoffech wybodaeth bellach am Fwrdd Gwasanaethau Lleol Merthyr Tudful, cysylltwch â’r BGLl a’r Rheolwr Partneriaethau.

Mae Cynllun Integredig Sengl Merthyr Tudful wrthi’n cael ei adolygu - pan fydd y broses adolygu wedi’i chwblhau a’i chymeradwyo gan Fwrdd Gwasanaethau Lleol Merthyr Tudful, bydd y Cynllun diwygiedig yn cael ei gyhoeddi ar y wefan hon.

Cysylltwch â Ni