Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mathau gwahanol o etholiadau

Mae gwahanol fathau o etholiad yn y DU, a gellir galw refferendwm fel ffordd o ofyn cwestiwn i’r cyhoedd. Fel mae arolwg barn ar droed, byddwch yn cael gwybodaeth ar y math o etholiad ond ni fyddwch yn gallu cymryd rhan oni bai eich bod wedi cofrestru i bleidleisio.

Etholiadau Cyngor Lleol

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 11 adran etholiadau lle mae cyfanswm o 30 o gynghorwyr yn cael eu hethol drwy’r dull y cyntaf i’r felin. Fel arfer mae etholiadau i’r unig gyngor cymunedol ym Medlinog a Threlewis yn cael eu cyfuno a’r etholiad bwrdeistref sirol.

Cynhaliwyd yr Etholiad Cyngor Lleol diweddaraf yn Mai 2022.  

Etholiadau Seneddol y DU

Mae Aelodau Seneddol yn cael eu hethol i’r Tŷ Cyffredin mewn Etholiad Seneddol Cyffredinol.

Ar hyn o bryd, mae Merthyr Tudful yn cyfuno a rhan bwrdeistref sirol Rhonda Cynon Taf i greu Etholaeth Merthyr Tudful ac Aberdar.

Oni bai am amgylchiadau eithriadol, cynhelir Etholiadau Seneddol yn awr bob 5 mlynedd, ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai.

Cynhaliwyd yr Etholiad Seneddol y DU diweddaraf yn Rhagyr 2019.  Bydd yr etholiad nesaf yn cael ei gynnal ym mis Ionawr 2025

Gwybodaeth am y Senedd

Senedd Cymry yw'r corff sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl.

Mae’r Senedd, fel y’i gelwir, yn deddfu ar gyfer Cymru, yn cytuno ar drethi yng Nghymru, ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Cynhaliwyd yr Etholiad Senedd diweddaraf yn Mai 2021.

Etholiad Comisiynwyr Heddlu a Throsedd

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn dal y Prif Gwnstabl a’r heddlu i gyfri drwy oruchwylio’r modd y maent yn delio â throsedd a sicrhau fod yr Heddlu’n darparu gwasanaeth da. Mae un Comisiynydd Heddlu a Throseddu ym mhob ardal heddlua, a chaiff ei ethol bob pedair blynedd. 

Mae Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn dod o dan ardal heddlu De Cymru.

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?