Ar-lein, Mae'n arbed amser

Pleidleisio drwy’r post

Mae pleidleisio drwy’r post yn ffordd hawdd a chyfleus o bleidleisio heb orfod mynd i orsaf bleidleisio. Mae pleidlais drwy’r post neu pleidleisio drwy ddirprwy (lle mae rhywun arall yn pleidleisio ar eich rhan) ar gael i unrhyw un sydd wedi cofrestru i bleidleisio.

Sut mae pleidleisio drwy’r post yn gweithio?

Anfonir eich papur pleidleisio, ynghyd â datganiad pleidleisio drwy’r post, i’ch cyfeiriad cofrestredig tuag wythnos cyn etholiad.

Bydd angen i chi roi eich dyddiad geni a’ch llofnod ar y datganiad, a chwblhau eich pleidlais yn y ffordd arferol trwy nodi croes. Dylech ddychwelyd y papur pleidleisio yn yr amlen ragdaledig a ddarparwyd.

Byddwn yn cydweddu’r dyddiad geni a’r llofnod gyda’r manylion a roddwyd ar eich ffurflen gais. Mae hyn yn atal twyll ac yn gwarchod eich pleidlais. Os oed rheswm diffuant pam na allwch roi eich llofnod arferol yna gallwch dderbyn hawl ildiad ond bydd angen I chi roi eich dyddiad geni o hyd.

Os byddwch yn penderfynu cofrestru i bleidleisio drwy’r post, ni allwch bleidleisio'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio. 

Gwneud cais i bleidleisio drwy’r post
Os ynych eisoes wedi cofrestru i bleidleisio gallwch wneud cais am pleidleisio drwy'r post.

Os ydych yn dymuno gwneud cais am bleidlais drwy’r post newydd, neu newid pleidlais drwy’r post cyfredol, mae’n rhaid derbyn ceisiadau cyn 5pm o leiaf un ar ddeg diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio.

Gwneud cais am bleidlais drwy’r post i gyfeiriad gwahanol

Os ydych am i’ch papur pleidleisio gael ei anfon i gyfeiriad gwahanol bydd angen i chi gysylltu â ni cyn 5pm o leiaf un ar ddeg diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio.

Gellir anfon pleidleisiau drwy’r post i gyfeiriad y tu allan i’r DU, ond dylech ystyried faint o amser y byddai’n ei gymryd i anfon a dychwelyd papurau pleidleisio mewn pryd erbyn yr etholiad.