Ar-lein, Mae'n arbed amser

Pleidleisio drwy Ddirprwy

Os na allwch chi bleidleisio’n bersonol gallwch chi ofyn i rywun​ bleidleisio ar eich rhan. Pleidlais drwy ddirprwy yw'r enw ar hyn.

Pwy sy’n gallu pleidleisio drwy ddirprwy?

Pleidleisio drwy ddirprwy ar gael i unrhyw un sydd wedi cofrestru i bleidleisio.  Dim ond o dan amgylchiadau penodol y cewch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy, gan gynnwys:

  • bod i ffwrdd ar ddiwrnod yr etholiad​
  • bod â phroblem feddygol neu anabledd
  • methu â phleidleisio'n bersonol oherwydd gwaith, addysg neu wasanaeth milwrol
  • wedi'ch cofrestru fel etholwr tramor
Dylai eich dirprwy fod yn rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo/ynddi i bleidleisio ar eich rhan. Bydd angen i chi ddweud wrth eich dirprwy sut rydych chi’n dymuno i'ch pleidlais gael ei bwrw.