Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cofrestru i Bleidleisio
Mae'n ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gadw'r gofrestr o bleidleiswyr cymwys yn gyfredol. Bod blwyddyn, rydym yn cysylltu â phob cartref i gael gwybod a yw'r manylion sydd gennym yn gywir ac yn rhoi cyfle i chi wneud diwygiadau ac ychwanegiadau. Gelwir hyn yn Ganfasio Blynyddol
Ganfasio Blynyddol 2022
Eleni byddwn yn cychwyn ar Awst 1 2022 trwy anfon neges i etholwyr sydd wedi darparu rhif ffôn symudol neu gyfeiriad e-bost. Cliciwch y linc i sicrhau mae'r gwybodaeth gennym yn gywir, os oes unrhyw newidiadau roi gwybod.
Yn ddiweddarach yn y mis byddwn yn anfon llythyr at unrhyw un sydd heb ddarparu manylion cyswllt. Eto, does ond angen ymateb os oes newid angen ei wneud i’r wybodaeth sydd gennym.
Yng nghanol mis Medi byddwn yn anfon llythyr i rai cartrefi y credwn fod angen gwneud newid. Mae hwn yn rhywbeth yr ydym angen i chi ei ateb, hyd yn oed i roi gwybod nad oes angen gwneud newidiadau.
Os nad ydym yn derbyn ateb i’r llythyr hwn, byddwn yn anfon llythyr arall a ffurflen ym mis Hydref.
- Os ydym yn cysylltu ym mis Awst ac mae’r manylion yn gywir, nid oes angen ymateb.
- Os nad ydych yn clywed oddi wrthym tan fis Medi, mae’n golygu bod angen i chi ymateb, hyd yn oed os yw’r wybodaeth sydd gennym yn gywir.
Mae gwneud hyn yn gyflym, ac os yn bosib yn electronig, yn golygu nad oes angen anfon neges atgoffa, does dim angen trefnu ymweliad i gael y wybodaeth a byddwn yn arbed arian.
Symud Cartref
Os ydych yn symud adref bydd angen i chi ailgofrestru. Cofiwch bydd angen i bob person sy’n gymwys i bleidleisio yn y cartref gofrestru’n unigol. Fodd bynnag, nid yw ychwanegu enw i'r gofrestr etholwyr yn eich hawl i bleidleisio.
Ni fydd eich hen gofrestriad na'ch pleidlais bost yn symud gyda chi.
Newid eich enw
Os ydych yn newid eich enw, er mwyn diweddaru’r gofrestr etholiadol bydd angen i chi lenwi a llofnodi ffurflen newid enw pleidleisiwr. Ni ellir gwneud hyn ar-lein. Hefyd, byddwch angen darparu dogfen berthnasol fel copi o dystysgrif priodas, gweithred newid enw neu dystysgrif geni i gefnogi’r ffurflen.
Dewis cael eich rhestru neu beidio cael eich cofrestru ar y gofrestr agored
Mae dwy gofrestr:
- Mae’r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio ac mae’n cael ei ddefnyddio at ddibenion etholiadol. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion cyfyngedig eraill a nodwyd gan y gyfraith, fel canfod trosedd, galw pobl i wneud gwasanaethau rheithgor a gwirio ceisiadau credyd.
- Darn o’r gofrestr etholiadol yw’r gofrestr agored ac nid yw’n cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau. Gall unrhyw unigolyn, gwmni neu sefydliad brynu’r rhestr hon at ddibenion marchnata. Bydd eich enw a’ch cyfeiriad ar y gofrestr agored oni bai eich bod yn gofyn am dynnu’r rhain oddi arni. Nid yw tynnu eich manylion oddi ar y gofrestr agored yn effeithio eich hawl i bleidleisio.
Mae’n rhaid i chi fod ar y gofrestr etholiadau ond gallwch ddewis cael eich rhestru neu beidio cael eich rhestru ar y gofrestr agored.