Ar-lein, Mae'n arbed amser

ID Ffotograffig

Bydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.

Bydd hyn yn berthnasol i:

  • Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 
  • Is-etholiadau seneddol y DU
  • Deisebau adalw

Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID i bleidleisio yng ngorsafoedd pleidleisio etholiadau’r Senedd na etholiadau cynghorau lleol.

Mathau o ID ffotograffig a dderbynnir

Gallwch ddefnyddio unrhyw un o’r mathau o ID ffotograffig a dderbynnir canlynol wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio.

Teithio rhyngwladol

  • Pasbort a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, gwladwriaeth AEE, neu un o wledydd y Gymanwlad

Gyrru a Pharcio

  • Trwydded yrru a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu wladwriaeth AEE (mae hyn yn cynnwys trwydded yrru dros dro)
  • Bathodyn Glas

Teithio lleol

  • Pàs Bws Person Hŷn
  • Pàs Bws Person Anabl
  • Cerdyn Oyster 60+
  • Pàs Freedom
  • Cerdyn Hawl Cenedlaethol yr Alban
  • Cerdyn Teithio Rhatach i bobl 60 oed a hŷn a gyhoeddir yng Nghymru
  • Cerdyn Teithio Rhatach i bobl anabl a gyhoeddir yng Nghymru
  • SmartPass i Bobl Hŷn a gyhoeddir yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass i bobl sydd wedi'u cofrestru'n ddall neu SmartPass i bobl ddall a gyhoeddir yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass Anabledd Rhyfel a gyhoeddir yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass 60+ a gyhoeddir yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass Hanner Pris a gyhoeddir yng Ngogledd Iwerddon
  • Prawf oedran
  • Cerdyn adnabod sydd â hologram y Cynllun Safonau Prawf Oedran (cerdyn PASS)
  • Dogfennau eraill a gyhoeddir gan y Llywodraeth
  • Dogfen mewnfudo fiometrig
  • Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn (Cerdyn Adnabod Amddiffyn)
  • Cerdyn adnabod cenedlaethol a gyhoeddir gan wladwriaeth AEE
  • Cerdyn Adnabod Etholiadol a gyhoedditr yng Ngogledd Iwerddon
  • Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
  • Dogfen Etholwr Dienw

Dim ond un math o ID ffotograffig y bydd angen i chi ei ddangos. Mae'n rhaid iddo fod yn fersiwn gwreiddiol ac nid llungopi.

ID ffotograffig nad yw’n gyfredol

Gallwch ddal defnyddio eich ID ffotograffig os nad yw’n gyfredol, cyhyd â’i fod yn dal yn edrych yn debyg i chi.

Dylai’r enw ar eich ID fod yr un enw a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru i bleidleisio.

Os nad oes gennych fath o ID ffotograffig a dderbynnir

Gallwch wneud cais am ddogfen ID pleidleisiwr sy’n rhad ac am ddim y’i gelwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, os:

  • nad oes gennych fath o ID ffotograffig a dderbynnir
  • nid ydych yn siŵr a yw eich ID ffotograffig yn dal i fod yn debyg i chi
  • rydych yn poeni am ddefnyddio math cyfredol o ID am unrhyw reswm arall, megis defnydd marciwr rhywedd

Gallwch wneud cais yma. Bydd rhaid eich bod wedi cofrestru i bleidleisio cyn y gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr.

Gwneud Cais Ar Lein

Ewch i wefan y llywodraeth.  Gofynnir i chi ddarparu llun difidol diweddar o'ch pen a'ch ysgwyddau gyda'ch wyneb heb ei orchuddio.  

Gwneud cais drwy'r post

Byddwch hefyd yn gallu gwneud cais trwy lenwi ffurflen gais bapur a'i dychwelyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Gallwch ofyn am y cyfarwyddiadau mewn print bras, braille neu hawdd ei ddarllen.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu gwneud cais yn bersonol yn eich cyngor lleol. Os oes angen unrhyw help arnoch i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr neu os hoffech wneud cais am ffurflen gais, cysylltwch â Electoral@merthyr.gov.uk neu 01685 725284.

Gwybodaeth Ychwanegol

Os ydych yn pleidleisio fel dirprwy rhywun

Bydd angen i chi gymryd eich ID eich hun pan fyddwch yn mynd i bleidleisio ar ran rhywun arall. Nid oes angen i chi gymryd ID nhw.

Os ydych chi wedi newid eich enw
Rhaid i'r enw ar eich dull adnabod gyd-fynd â'ch enw ar y gofrestr etholiadol. Os nad ydyw, bydd angen i chi naill ai:
  • cofrestrwch i bleidleisio eto gyda'ch manylion newydd
  • mynd â dogfen gyda chi i bleidleisio sy’n profi eich bod wedi newid eich enw (er enghraifft, tystysgrif priodas)
Nid yw gwahaniaethau bach o bwys. Er enghraifft, os yw eich dull adnabod yn dweud ‘Jim Smith’ yn lle ‘James Smith’.
I gael rhagor o wybodaeth am ID Pleidleiswyr cliciwch yma.

Cysylltwch â Ni