Ar-lein, Mae'n arbed amser

Grant Darparwyr Gofal Plant

Ffurflen Gais

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio’r Grant Darparwyr Gofal Plant i helpu darparwyr gofal plant gyda chanlyniadau economaidd y coronafeirws (Covid-19).

Mae’r grant yn cyd-fynd â mesurau cymorth eraill y Llywodraeth (fel y Cynllun Cadw Swyddi i roi cyflogeion ar ‘ffyrlo’) ar gyfer pobl a busnesau.

Nid ydych chi’n gymwys i gael y grant hwn os ydych chi wedi derbyn neu os ydych chi wedi cyflwyno cais llwyddiannus am gymorth gan:

  • Y grant ardrethi busnes gan eich Awdurdod Lleol
  • Y Gronfa Cadernid Economaidd ar gyfer busnesau bach a chanolig a microfusnesau
  • Y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig
  • Grant Cychwyn Busnes Llywodraeth Cymru
  • Cronfa Cadernid y Trydydd Sector

Yn ogystal â’r cynlluniau uchod, ni fyddwch yn gymwys os ydych chi wedi cael cyllid dan gynllun grant Mudiad Meithrin gan fod yr arian hwn yn dod o Gronfa Cadernid y Trydydd Sector.

Os nad ydych chi wedi dewis ‘ydy’ ar gyfer yr holl gwestiynau uchod, nid ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun. Sicrhewch fod yr holl incwm a gwariant sy'n gysylltiedig â busnes yn cael eu hamlygu'n glir ar gyfriflenni banc. Ceir rhagor o fanylion yn y ddogfen arweiniad.