Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ffurflen Gais Ad-daliad

Rhagymadrodd

Os yw'r Ad-daliad ar gyfer Atebolrwydd ar y Cyd rhaid i bob parti atebol gwblhau cais (Fel arall byddwn ond yn talu 50% o'r credyd hyd nes y derbynnir cadarnhad gan bob parti).

Os nad oes gennych gyfrif banc, enwebwch rywun i dderbyn taliad ar eich rhan.

Bydd cyfrifon lle bu farw’r person atebol yn daladwy yn enw “Ysgutor”. Fodd bynnag, gellir enwebu person penodedig os oes prawf o Ganiatâd Profiant neu Ewyllys wedi'i ddarparu.

Gwneir ad-daliadau, yn seiliedig ar y wybodaeth sy'n bresennol ar eich cyfrif ar adeg y cais, os bydd eich atebolrwydd yn newid ar ôl i'r ad-daliad gael ei wneud, efallai y cewch hysbysiad diwygiedig yn nodi bod rhwymedigaeth bellach yn ddyledus.

Os oes gennych gyfrif arall gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful sydd â balans debyd heb ei dalu, bydd y credyd hwn yn cael ei ddefnyddio i dalu’r balans hynny.

Dim ond drwy BACS y gwneir ad-daliadau a gall gymryd hyd at 21 diwrnod i’w prosesu a’u dangos fel cyllid wedi’u clirio yn eich cyfrif banc.