Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr

Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddedig am ddim i aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yn Merthyr Tudful.  Mae'r gwasanaeth yn cynnwys ystod o wasanaethau gan gynnwys Budd-daliadau, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Cyllid, Cyflogaeth a Thai.

Mae nifer o sefydliadau sy'n cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog, felly mae dod o hyd i'r sefydliad cywir yn gallu bod yn gymhleth. Bwriad Gwasanaeth Cymorth i Gyn-filwyr Merthyr Tudful yw gwneud y broses yma mor hawdd â phosibl. Byddwn ni'n eich atgyfeirio chi at y sefydliad mwyaf addas er mwyn i chi gael y cymorth sydd ei angen arnoch chi.

P'un ai ydych chi’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog ar hyn o bryd, neu wedi gwasanaethu yn y gorffennol, cewch chi a'ch teulu fanteisio ar ein gwasanaeth am gyngor a chymorth.

Eich manylion
GDPR

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ymrwymedig i gynnal eich hawliau preifatrwydd. Dim ond at ddibenion cyfreithlon y byddwn ni’n defnyddio’ch gwybodaeth bersonol. Os hoffech wybod mwy am sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol, darllenwch hysbysiadau preifatrwydd sydd ar gael ar ein gwefan. Os oes gennych unrhyw bryderon neu os hoffech wybod mwy am gydymffurfiaeth diogelu data, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data ar 01685 725000 neu data.protection@merthyr.gov.uk