Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Cyfreithiwr
Cyfeirnod y swydd: RE-1812
Cyflog: £46,731.00 - I: £49,764.00
Graddfa Swydd: Gradd 9 / Grade 9
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Y Ganolfan Ddinesig / Ystwyth - Civic Centre / Agile
Arbenigol:
Darparu cyfarwyddyd cyfreithiol, cefnogaeth, cyngor a chynrychiolaeth i holl Adrannau'r Cyngor, Aelodau'r Cyngor ac unrhyw gyrff cleientiaid allanol. I ymddangos lle bo hynny'n briodol yng nghyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a'r Pwyllgor. I gynrychioli'r Cyngor yn y Llys, os yw'n briodol (Sir, y Goron ac Ynadon), Tribiwnlysoedd, ymchwiliadau, gwrandawiadau a Phaneli fel a phan fo angen. Byddai profiad yn rhai o'r meysydd canlynol yn fuddiol:- Llywodraeth Leol, Contractau, Caffael, Ystadau (COP) ac Adfywio Economaidd.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Geraint Morgan ar 01685 725000 neu ebostiwch Geraint.Morgan@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 07.08.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.