Ar-lein, Mae'n arbed amser
£3.9 miliwn o Gyllid Cyfalaf y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn cael ei ddyfarnu i ddatblygu 4 cyfleuster Gofal Plant newydd ym Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 06 Tach 2024
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi llwyddo i sicrhau cyllid o bron i £4 miliwn gan Lywodraeth Cymru o 'Raglen Gyfalaf y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant' i ddatblygu 4 darpariaeth Gofal Plant newydd.
Bydd y cyfleusterau'n cael eu datblygu mewn ardaloedd lle y nodwyd bylchau yn y ddarpariaeth gofal plant, gyda ffocws cryf ar gynyddu argaeledd gofal plant cyfrwng Cymraeg. Nod datblygiad darpariaeth newydd y Blynyddoedd Cynnar, cyfrwng Cymraeg yw cynyddu nifer y plant sy'n gallu siarad y Gymraeg a chefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg, ledled Cymru erbyn 2050.
Dros amser, bydd pob un o'r 4 cyfleuster gofal plant yn cynnig lleoedd Dechrau'n Deg a’r Cynnig Gofal Plant yn ogystal â chaniatáu i rieni dalu'n breifat am ofal plant. I ddechrau, bydd gofal plant ar gael i blant 2 a 3 oed. Rhoddir ystyriaeth hefyd i ddatblygu darpariaeth y tu allan i'r ysgol a darpariaeth gwyliau ar gyfer plant hŷn.
Bydd pob un o'r lleoliadau newydd yn cynnig ystod o wasanaethau a fydd yn cynnwys gofal plant Dechrau'n Deg. Mae Dechrau'n Deg yn cynnig gofal plant o ansawdd uchel sy'n cefnogi dysgu a datblygiad plant ac yn help i osod sylfaen cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol. Bydd plant yn cael cyfle i fanteisio ar amrywiaeth o weithgareddau a fydd yn gwella eu datblygiad. Bydd staff yn cyfathrebu'n aml gyda rhieni/gofalwyr, fel y gellir parhau i gefnogi dysgu gartref.
Bydd y pedwar datblygiad newydd yn cael eu lleoli yn yr ardaloedd canlynol:
Cylch Meithrin newydd yn ardal Trefechan - bydd y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg hon wedi'i lleoli mewn adeiladau sydd wedi'u hadnewyddu ar y Maes Glas yn Nhrefechan. Cynigir y bydd y ddarpariaeth gofal plant yn weithredol erbyn mis Medi 2025.
Cylch Meithrin ar safle Ysgol Gynradd Santes Tudful – Mae cyllid wedi'i sicrhau i ddatblygu adeilad newydd ar safle Ysgol Gynradd Santes Tudful i ddarparu ar gyfer Cylch Meithrin. Bydd y ddarpariaeth hon yn cynnig pontio di-dor i'r plant ifanc hynny a fydd yn cael mynediad I Ysgol Santes Tudful. Cynigir y bydd y ddarpariaeth newydd wedi'i chofrestru ar gyfer hyd at 24 o blant a'i nod yw bod yn weithredol erbyn mis Ionawr 2026.
Cylch Meithrin ar safle Ysgol Gynradd Rhyd y Grug - Mae cyllid wedi ei sicrhau i ddatblygu estyniad i Ysgol Rhyd y Grug i ddarparu ar gyfer Cylch Meithrin Aber-fan. Bydd estyniad newydd yr ysgol yn cael ei adeiladu'n bwrpasol a bydd yn cynnig hyd at 24 o leoedd gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r datblygiadau ar gyfer y Cylch Meithrin wedi hen ddechrau ac mae'r prosiect hwn yn rhan o gynllun ehangu ysgolion. Y gobaith yw y bydd y Cylch Meithrin yn weithredol erbyn Ionawr 2026.
Darpariaeth cyn-ysgol ar safle newydd Ysgol Gynradd Goetre - Mae cyllid wedi'i sicrhau i ddatblygu Ysgol Feithrin newydd ar safle newydd Ysgol Gynradd Goetre a fydd wrth ymyl safle Ysgol Uwchradd Pen-y-Dre. Bydd y ddarpariaeth yn cynnig darpariaeth Saesneg ar gyfer hyd at 24 o blant ac rydym yn gobeithio y bydd y feithrinfa yn weithredol erbyn mis Ionawr 2027.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lewis, Aelod Cabinet dros Addysg: "Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant o ansawdd uchel i'n cymuned ac rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth Cymru.
"Heb os, bydd y buddsoddiad hwn yn cael effaith gadarnhaol ar deuluoedd yn y gymuned trwy ddarparu opsiynau gofal plant mwy hygyrch ac o ansawdd uchel. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ac rwy'n siŵr y bydd llawer o deuluoedd yn elwa o'r cyfleusterau newydd hyn."