Ar-lein, Mae'n arbed amser
Dyfarnu 44 o fedalau i ddisgyblion Merthyr Tudful yn Eisteddfod Caerdydd!
- Categorïau : Press Release
- 06 Chw 2024
Nos Wener Ionawr 26ain, aeth disgyblion o Ferthyr Tudful i Eisteddfod Caerdydd am noson o gystadlaethau, a diwylliant Cymraeg.
Dyfarnwyd cyfanswm o 44 o fedalau i ddisgyblion o Ysgol y Graig, Ysgol Pen y Dre ac Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd y Grug am lythrennedd, llefaru unigol, cystadlaethau offerynnol a chystadlaethau llefaru grŵp.
Gan gystadlu mewn cystadlaethau Cymraeg i ddysgwyr ac iaith gyntaf, cynrychiolodd disgyblion eu hysgolion a'u cymuned leol yn wych, gan dderbyn cymeradwyaeth ar ddiwedd y noson am eu cyfraniadau i'r Eisteddfod.
Y canlyniadau:
Llefaru Unigol Blwyddyn 4 ac Iau
3ydd: Freya Donnelly – Ysgol Rhyd y Grug
Llefaru Unigol Blwyddyn 6 ac Iau (Dysgwyr)
1af: Jack Hennessy - Ysgol y Graig
Llefaru Blwyddyn 7-9 (Iaith Gyntaf)
2il: Ollie Casey - Ysgol Pen y Dre
Llefaru Unigol Blwyddyn 7-9 (Dysgwyr)
1af: Ollie Casey - Ysgol Pen y Dre
Ruby Clarke - Ysgol Pen y Dre
3ydd: Ieuan Benbow - Ysgol Pen y Dre
Llefaru Unigol Blwyddyn 10-13 (Iaith Gyntaf)
2il: Leona Williams - Ysgol Pen y Dre
3ydd: Lily McCarthy - Ysgol Pen y Dre
Llefaru Unigol Blwyddyn 10-13 (Dysgwyr)
1af: Holly Thomas - Ysgol Pen y Dre
2il: Leona Williams - Ysgol Pen y Dre
3ydd: Lily McCarthy - Ysgol Pen y Dre
Cystadleuaeth Offerynnol Blwyddyn 7-13
2il: Holly Thomas - Ysgol Pen y Dre
4ydd: Isobella Lagos - Ysgol Pen y Dre
5ed: Jacob Williams - Ysgol Pen y Dre
Adrodd Grŵp Blwyddyn 10-13 (Dysgwyr)
1af: Grŵp Morlais - Ysgol Pen y Dre
2il: Grŵp Y Gurnos - Ysgol Pen y Dre
3ydd: Grŵp Llywelyn - Ysgol Pen y Dre
Llythrennedd Blwyddyn 10-13 (Dysgwyr)
1af: Keira-Louise Pritchard - Ysgol Pen y Dre
Dywedodd Mr Mark Morgan, Pennaeth Adran Gymraeg Ysgol Pen y Dre, "Rydym yn hynod falch o lwyddiant rhagorol ein disgyblion, ac am eu hymddygiad ac ymrwymiad i'r Gymraeg".
Ychwanegodd Mr Matt Howells, Arweinydd y Gymraeg yn Ysgol y Graig, "Mae'r angerdd a'r brwdfrydedd dros y Gymraeg yn bleser ei weld yn y disgyblion. Mae eu hymrwymiad a'u gwaith caled yn amlwg, ac yn llwyddiant anhygoel pawb sy'n cymryd rhan. Fel athro ac arweinydd Cymraeg, mae'n gwneud i mi deimlo'n falch o weld cymaint o bobl ifanc yn dangos eu hangerdd a'u pleser wrth ddysgu ein hiaith genedlaethol".
Dywedodd Mrs Alwen Bowen, Pennaeth Ysgol Rhyd y Grug "Llongyfarchiadau enfawr i holl ddisgyblion Merthyr a gymerodd ran yn yr Eisteddfod, gan ddangos ymrwymiad i'r Gymraeg. Da iawn i Freya oedd yn cystadlu yn erbyn plant dair blynedd yn hŷn na hi yn y gystadleuaeth."
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Symonds, Hyrwyddwr y Gymraeg, "Llongyfarchiadau mawr i'r holl blant a phobl ifanc a gymerodd ran yn yr Eisteddfod a diolch i'r staff ymroddedig am eu cefnogi.
"Mae'n hyfryd gweld yr iaith Gymraeg yn cael ei dathlu ymhlith ein cenhedlaeth iau."