Ar-lein, Mae'n arbed amser

7 mlynedd o lwyddiant sefydlu busnesau ym Merthyr Tudful — wrth i ganolfan fenter (MTEC) nodi 36% o gynnydd mewn cofrestriadau busnes newydd

  • Categorïau : Press Release
  • 11 Awst 2022
10-8-22-HJ-MTEC-411A0687

Mae 2022 yn dynodi saith mlynedd ers sefydlu Canolfan Fenter Merthyr Tudful (MTEC) — prosiect cydweithredol rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Tydfil Training, sy’n cefnogi anghenion busnesau newydd a busnesau sy’n bodoli eisoes ym Merthyr Tudful.

Wedi’i chreu o’r angen i greu hyb busnes yng nghanol y dref, mae MTEC yn cynnig dull newydd o gefnogi busnesau ym Merthyr Tudful — gan ddarparu cyfleuster corfforol i brofi masnach, meithrin a chyfleusterau twf yn ogystal â chefnogaeth prif ffrwd. Cefnogir hyn i gyd gan dîm cymorth penodol ar y safle.

Heddiw, y 12fed o Awst — a dim ond wyth mis o’r flwyddyn wedi bod — mae MTEC wedi cyhoeddi cynnydd enfawr o 36% yn nifer y cofrestriadau am gymorth busnes a dderbyniwyd o gymharu â 2021. Yn ei dro, mae hyn wedi arwain at gynnydd o 20% yn nifer y busnesau a ddechreuwyd — gyda 2022 ar y trywydd iawn i fod yn flwyddyn orau MTEC ar gofnod. 

Dros y blynyddoedd, mae MTEC wedi helpu dros 200 o fusnesau newydd llwyddiannus o sawl sector — gan gynnwys manwerthu, gweithgynhyrchu a lletygarwch, a thrwy helpu i newid wyneb canol tref Merthyr Tudful.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi bod yn gefnogol gyda’r gwaith o ddarparu MTEC dros gyfnod o saith mlynedd — fel partner hollbwysig sy’n cynnig gwasanaethau ychwanegol megis y Rhaglen ‘Yn y Cyfamser’, sy’n creu cyfleoedd i berchnogion busnes sefydlu mewn eiddo gwag yng nghanol y dref.

Dywedodd Paul Gray, Prif Weithredwr Tydfil Training: “Dros y blynyddoedd, mae MTEC wedi gweithio i annog menter, entrepreneuriaeth a chyflogaeth ym Merthyr Tudful, gan ddod yn bwynt cyswllt canolog ar gyfer busnesau newydd a’r rhai sy’n bodoli eisoes. Gyda chefnogaeth y tîm cymorth penodol ar y safle, mae MTEC yn sicrhau bod perchnogion busnes yn gallu cael mynediad i’r cymorth cywir ar yr adeg gywir, a hynny gan y partner cywir.

“Rydyn ni’n ymfalchïo mewn datblygu nid yn unig y busnesau eu hunain, ond hefyd yr unigolion sydd wrth wraidd pob busnes. Rydyn ni wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau pawb yn gyson ar yr hyn y gellid ei gyflawni — gan brofi bod y dull cydweithredol yn darparu mwy na swm ei rannau.”

Dywedodd Adam Smith, perchennog Niche Website Development: “Gyda diolch i gymorth MTEC a’r Cyngor, roeddwn i’n gallu agor fy musnes ym mis Mawrth 2019. Ers hynny, mae MTEC wedi parhau i fod yn adnodd gwych – gan sicrhau fy mod nid yn unig wedi agor fy musnes, ond ei fod yn aros ar agor hefyd. Mae’r tîm yn ymroddedig i helpu busnesau o bob math ac alla i ddim diolch digon iddyn nhw.”

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd, y Cynghorydd Geraint Thomas: “Mae’n wych gweld llwyddiant parhaus MTEC sydd, ers ei sefydlu, wedi arwain y ffordd ar gyfer datblygu busnesau yma ym Merthyr Tudful.

“Bu’r pandemig yn gyfnod anodd i fusnesau lleol ym Merthyr Tudful, Cymru a thu hwnt – felly mae’n galondid i mi glywed am gynnydd sylweddol MTEC mewn cofrestriadau am gymorth busnes a busnesau newydd ar gyfer 2022. Mae’n siŵr y bydd y llwyddiant hwn yn helpu i baratoi’r ffordd ar gyfer adfywio.”

Am fwy o wybodaeth am MTEC, cysylltwch â Karl Griffiths ar 01685 727509.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni