Ar-lein, Mae'n arbed amser

Darpar Dirprwy Faer Ieuenctid newydd ar gyfer Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 23 Hyd 2021
mayor youth

Ar Ddydd Iau, 21ain o Hydref, etholwyd Dirprwy Faer Ieuenctid newydd i Merthyr Tudful. Dewiswyd Katy Richards, sy'n mynychu Ysgol Uwchradd yr Esgob Hedley yng Nghabinet Ieuenctid Fforwm Ieuenctid Eang Bwrdeistref Merthyr Tudful a gynhelir yn y Tŷ Coch a bydd yn ymgymryd â rôl y Maer Ieuenctid yn 2023.

Ym mis Hydref pob blwyddyn, mae gan bobl ifanc, ledled Merthyr, bleidlais ddemocratig er mwyn dewis y Maer Ieuenctid nesaf. Eleni, roedd chwe ymgeisydd a defnyddiodd disgyblion ysgolion uwchradd a cholegau Merthyr eu llais i bleidleisio am eu hymgeiswyr. 

Dywedodd Andrew Millar, y Maer Ieuenctid presennol: “roedd pob un o’r ymgeiswyr yn wych a hoffai Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Gyfan Merthyr Tudful longyfarch pob un ohonynt am eu hymroddiad i’r ymgyrch. Mae pobl ifanc Merthyr Tudful yn fodelau rôl cadarnhaol yn y gymuned.”

Yn bresennol, roedd Maer Merthyr Tudful, y Cynghorydd Malcolm Colbran, Arweinydd y Cyngor ac aelod o’r Cabinet Addysg, y Cynghorydd Lisa Mytton a’r Cynghorydd Chris Davies.

Dywedodd y Cynghorydd Malcolm Colbran, Maer Merthyr Tudful: “Llongyfarchiadau i Katy Richards ar ddyfod yn Ddarpar Dirprwy Faer Ieuenctid Etholedig a chael ei dewis ymhlith  6 ymgeisydd neilltuol. Mae’r Maer Ieuenctid nid yn unig yn cynrychioli pobl ifanc mewn digwyddiadau ledled y Fwrdeistref ond ynghyd ag aelodau o Gabinet Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn sicrhau eu bod yn derbyn gwrandawiad. Mae llais yr ifanc yn gwneud gwahaniaeth i wasanaethau ar gyfer pobl ifanc ac mae’n wych gweld cynifer ohonynt eisiau gwella eu cymunedau.”

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Mytton: “Roeddwn yn falch i allu bod yn bresennol ar gyfer cyhoeddiad y Darpar Ddirprwy Faer Etholedig yn y Red House. Roedd yn gyfle gwych i gwrdd â’r ymgeiswyr a chael siarad â hwy. Llongyfarchiadau i  Katy ar gael ei hethol ac roeddwn yn falch i glywed fod yr ymgeiswyr eraill yn mynd i barhau i chwarae rhan allweddol yn Fforwm Ieuenctid Merthyr Tudful sydd yn mynd o nerth i nerth.” 

 

Mae Fforymau’r Ieuenctid ar gyfer Bwrdeistref Merthyr Tudful Gyfan bob amser yn edrych am bobl ifanc sydd yn teimlo’n angerddol am wneud gwahaniaeth a sicrhau fod gan bobl ifanc lais.

Am ragor o wybodaeth am Fforwm yr Ieuenctid, cysylltwch â Janice Watkins, Uwch Swyddog Cyfranogiad yr Ifanc, E-bost: jw3@smt.org.uk <mailto:jw3@smt.org.uk> neu cysylltwch â’r dudalen facebook @Mtyouth

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni