Ar-lein, Mae'n arbed amser

Tafell o Napoli’n cyrraedd Merthyr Tudful – wrth i bizzeria go iawn cyntaf Cymru gael ei agor

  • Categorïau : Press Release
  • 15 Medi 2023
PO_150923_MERTHYR PIZZA_08

Ar ddydd Sadwrn (Medi 16), bydd gwir flas Napoli’n cyrraedd stryd fawr Merthyr Tudful wrth i Bizzeria Scorchini’s agor ei ddrysau am y tro cyntaf erioed.

Y busnes teuluol hwn bydd y pizzeria Naplaidd go iawn cyntaf yng Nghymru – un o ddeuddeg yn unig ledled y Deyrnas Unedig.

Ar ben hynny, mae perchnogion y bwyty a’r pen-pizzaiolo’s, Gareth a Miranda George, yn ddau o blith ychydig o gogyddion pizza dilys sydd wedi’u hyfforddi’n broffesiynol yn y DU.

Bu’r tîm gŵr-a-gwraig yn hyfforddi yn ysgol Associazione Vera Pizza Napoletana (AVPN) yn Napoli gyda gor-ŵyr Taffaele Esposito – credir mai ef oedd yn gyfrifol am greu’r pizza Margheria cyntaf ym 1889.

Gan ddechrau drwy deithio o amgylch de Cymru mewn bocs ceffylau wedi ei addasu, daeth y cwpl yn adnabyddus yn gyflym iawn am eu pizzas – gan weini ar set Doctor Who a bwydo tîm rygbi cenedlaethol Cymru cyn iddynt deithio i bencampwriaeth Gwpan y Byd.

Mae’r pâr ar fin cychwyn eu her fwyaf cyffrous eto, wrth iddynt agor eu pizzeria cyntaf ym Merthyr Tudful – menter a oedd yn bosib diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a buddsoddiad Preifat.

Diolch i’r nawdd hwn, bydd y bwyty sydd newydd ei adnewyddi’n gweini pizzas wedi eu cymeradwyo gan yr AVPN yn bizzas wirioneddol Naplaidd neu’n “Vera Napoletana” -  meincnod ar gyfer pizzas drwy gydol y byd.

Mae pizza Naplaidd go iawn wedi ei wneud o fozzarella a ddaw o gorstiroedd deheuol mynyddoedd yr Apennine a thomatos eirin a dyfwyd ym mhridd folcanig mynydd Vesuvius – gan ddod â chyfuniad o asid disglair, a llyfnder melys, cawslyd i’r pizza.

Rhaid i’r cynhwysion allweddol hyn ddod o’r Eidal ond maent yn cael gafael ar elfennau eraill bwydlen newydd a chyffrous Scorchini’s yn lleol – gan gynnwys cigoedd wedi'u halltu gan grefftwyr o Charcuterie Cwmfarm, a chyn-arwr rygbi Cymru, Dan Lydiate, yw’r perchennog.

Gyda’r gwaith adnewyddu nawr wedi ei gwblhau, bydd bwyty newydd Merthyr Tudful yn dod ag egni Eidalaidd modern i ganol y dref. Mae’r cwpwl wedi comisiynu artist-stryd lleol Merthyr Tudful, Arvekay, i addurno’r adeilad y tu fewn a thu allan mewn teyrnged i'r gwaith celf sy’n gorchuddio strydoedd Napoli.

Mae gwaith celf Naplaidd enwog Banksy ‘Madonna â phistol’ wedi ei ail-greu y tu allan i’r bwyty – ond yn yr achos hwn ‘Madonna gyda’r logo AVPN’ – gan ddod ag ychydig o hunanfynegiant a diwylliant y ddinas i Ferthyr Tudful.

Meddai Gareth George, perchennog Pizzeria Scorchini: “Mae gallu agor ein bwyty ni ein hunain yn gam cyffrous ac yn un na fyddem fyth wedi meddwl byddai’n bosib i ni. Rydym yn ddiolchgar i’r Cyngor am yr holl help a’r gefnogaeth ariannol maent wedi eu darparu.

“Gan fy mod i wrth fy modd gyda phizzas, alla i ddim aros i ddod ag ychydig o flas Napoli i Ferthyr Tudful. Rydym yn caru’r ffaith nad oes yn rhaid i chi adnewyddu eich pasbort a neidio ar awyren er mwyn profi gwir flas Napoli… mae e fan hyn ym Merthyr Tudful!”

Meddai Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, y Cynghorydd Geraint Thomas: “Mae’n hyfryd gweld bwyty poblogaidd Cymreig arall yn gwneud cartref parhaol yma ym Merthyr Tudful, a does ges i ddim amheuaeth y bydd Pizzeria Schorchini yr un mor boblogaidd â metrau coginiol newydd eraill y dref.

Mae cefnogi entrepreneuriaid yn y modd hwn yn gam pwysig iawn i’n helpu ni i greu diwylliant o fusnesau annibynnol a bwydydd a diodydd unigryw ym Merthyr Tudful – a hyn oll drwy ddod â phwrpas newydd i’r adeiladau gwag yng nghanol y dref. Mae’r cwbl yn rhan o Brif Gynllun ehangach ar gyfer canol y dref ac rwy’n cael pleser mawr wrth wylio pob cam o’r datblygiad.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni