Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ysgolion clwstwr Afon Tâf yn mwynhau gweithgareddau yn y Gymraeg

  • Categorïau : Press Release
  • 06 Gor 2021
Afon Taf activities day

Mae’r cyntaf o ddau ddigwyddiad i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn ffordd llawn hwyl wedi cael eu cynnal mewn partneriaeth â’r Urdd a CBSMT.

Cafodd y digwyddiadau eu trefnu ar gyfer ysgolion clwstwr Afon Afon Tâf ac fe’i cynhaliwyd ar Drac Rhedeg John Sellwood, sydd newydd gael ei agor.

Roedd disgyblion YGG Rhyd y Grug yn allweddol yn eu rôl yn cyhoeddi’r digwyddiadau.

Yn sgil cyfyngiadau Covid, nid oedd yn bosibl i’r holl ysgolion ddyfod ynghyd, felly cymerwyd rhan gan ddisgyblion Abercannaid, Troedyrhiw ac Ynysowen yn y sesiwn gyntaf, gyda’r ysgolion cynradd partner eraill yn cael yr un cyfle yr wythnos nesaf.

Dywedodd Hyrwyddwr y Gymraeg y Cyngor, y Cynghorydd Geraint Thomas: “Roedd yn grêt gweld y disgyblion yn sgwrsio yn y Gymraeg gyda’r athrawon ac ymhlith ei gilydd wrth iddynt fwynhau eu hunain ar yr un pryd.

“Pleser hefyd oedd ymweld â Thrac John Sellwood o’r diwedd. Dyma deyrnged deilwng i’n diweddar gyfaill a chydweithiwr a weithiodd mor galed ar wella’r trac.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni