Ar-lein, Mae'n arbed amser

Blwyddyn lwyddiannus arall i Brentisiaid yn y Cyngor

  • Categorïau : Press Release , Council , Corporate
  • 07 Chw 2022
Apprenticeship_CMYK_2022

Yr wythnos hon, Chwefror 7fed-13eg 2022 yw ‘Wythnos Genedlaethol Prentisiaid’ gan ddod a phawb sydd yn angerddol am brentisiaethau ynghyd er mwyn dathlu gwerth, manteision a’r cyfleoedd mae prentisiaethau yn ei roi.  

Y thema eleni yw ‘Adeiladu’r Dyfodol’ ac yng Nghyngor Merthyr Tudful rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein dyfodol trwy gefnogi rhaglenni prentisiaethau. Eleni, mae 7 prentis wedi ymuno â CBSMT, gan arbenigo mewn meysydd gwahanol. Bwriad ein rhaglen brentisiaeth yw darparu hyfforddiant mewn swydd wrth gefnogi'r prentisiaid i ennill cymwysterau cenedlaethol cydnabyddedig. Mae’r cymhwyster y mae pob Prentis yn ei astudio yn berthnasol i’w dewis yrfa, sydd yn effeithiol gan ei fod yn cynnig gwybodaeth yn ogystal â sgiliau ymarferol o’r gweithle. Mae’r dull hybrid yma yn eu galluogi i ymestyn eu sgiliau a gwella eu gallu mewn gwasanaethau ar draws y Cyngor.

Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaeth 2022 yn gyfle gwych i ddathlu gyda’r gymuned brentisiaethau, hybu manteision prentisiaethau y cyfleodd i ddatblygu, o safonau newydd a dathlu sut mae prentisiaethau yn gweithio i unigolion, cyflogwyr, y gymuned leol a’r economi ehangach.

Dwedodd y Prif Weithredwr Ellis Cooper, “Yn rhaglen 2021,fe recriwtiaid 7 prentis newydd mewn amrywiol adrannau ar draws y Cyngor megis Data, Rheolaeth Adeiladau, Datblygu a Dysgu, Carbon ac Ynni a’r Parciau. Rwy’n credo ei bod yn bwysig cofio ein dyletswydd i feithrin a datblygu tyfiant y Cyngor trwy ddatblygu gweithwyr newydd trwy raglen ffantastig! Yn ogystal â hyn mae ein Rhaglen Ymgeisio yn parhau i gefnogi prentisiaid o fewn y sector GTPAM( Gwyddoniaeth, Technoleg ,Peirianneg ,Awyrenneg a Mathemateg) yn ogystal ag adeiladu perthynas gyda chyflogwyr a phartneriaid allanol. Rydym hefyd wedi cael nifer o staff yn ymuno â rhaglen brentisiaeth fel datblygiad proffesiynol. Rydw I wrth fy modd i weld y gwaith sy’n digwydd yn ein sefydliad. Mae hi’n adeg gyffrous iawn I Brentisiaethau yng Nghyngor Merthyr Tudful.”

 

Beth sydd gan brentisiaid 2021 - 22 i’w ddweud am eu hamser yn gweithio yn y Cyngor?

 

Aminah Ali, Prentis Carbon ac Ynni , Lefel 4 Gwasanaethau Adeiladu & CCG Lefel 4 Goruchwyliaeth safle adeiladu

“Rydw i wedi cael amrywiaeth o gyfleodd tra’n brentis gyda CBSMT. Rydw i wedi cael cyrsiau hyfforddiant er mwyn datblygu fy ngwybodaeth a dealltwriaeth o garbon ac ynni. Rydw i hefyd wedi datblygu perthynas trwy gwrdd â chontractwyr ac wedi cefnogi nifer o brojectau megis uwchraddio goleuadau LED a gosod golau solar PV. Rydw i wedi gwella fy sgiliau gwaith tîm, cynllunio a sgiliau arwain a threfnu.”

 

Aled Williams, Prentis Rheolaeth adeiladu, Lefel 3 Diploma mewn Adeiladu yn yr Amgylchedd Adeiledig.

“Ar hyn o bryd rydw i’n astudio adeiladu yn yr amgylchedd adeiledig Lefel 3  yng ngholeg Castell Nedd  gan ddysgu am bob math o ddeunyddiau adeiladu, darlunio CAD a thechnoleg adeiladu gydag elfennau o Beirianneg Sifil. Ers dechrau rydw i wedi datblygu gwybodaeth am reoliadau adeiladu ac yn y misoedd nesaf yn dechrau archwilio cynlluniau adeiladu ac ymweld â safleoedd adeiladu bychan yn annibynnol er mwyn ymestyn fy rȏl yn y swydd.”

 

Stacey Watkins, Prentis Dysgu a Datblygu, Tystysgrif Lefel 3 mewn Datblygu a Dysgu.

“Mae’r cyfle i weithio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful fel Prentis Datblygu a Dysgu wedi dangos i mi pa mor bwysig yw hyfforddiant a buddsoddi yn ein staff, nid yn unig yn y Cyngor ond i bob sefydliad. Mae hyfforddi a datblygu sgiliau'r gweithlu yn galluogi staff i gynllunio a gwella eu dyfodol, ffocysu ar eu perfformiad a helpu i greu sefydliad cryf a gwerthfawrogi'r gwaith.”

 

Lloyd Howells, Prentis Cyfryngau Cymdeithasol Diploma Lefel 3 mewn Cyfryngau Cymdeithasol mewn Busnes

“Hyd yn hyn rydw i wedi mwynhau'r cydbwysedd rhwng gweithio ac astudio. Mae fy nghydweithwyr wedi bod yn garedig iawn yn rhoi cyfle i mi eu cysgodi a dysgu mwy am y swydd a gyda’r gwaith cwrs. Rydw i’n teimlo fy mod yn dysgu sgiliau newydd bob wythnos.”

 

Luned Francis Prentis Data a Busnes dadansoddol Lefel 4 mewn Data dadansoddol

“Byddwn yn argymell unrhyw un sy’n edrych am newid gyrfa neu newydd adael ysgol i ymuno â phrentisiaeth. Mae’n gyfle gwych i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ac yn gyflwyniad rhagorol i yrfa newydd.”

 

Brandon Burnell, Prentis Parciau, Lefel 2 mewn Garddwriaeth

“Roeddwn yn arfer gwirfoddoli cyn i mi weld yr hysbyseb am brentisiaeth ac yn adnabod yr ardal ac yn gyfforddus. Rydw i wrth fy modd gyda’r ochr ymarferol yn plannu coed, creu gwely blodau a defnyddio'r offer peirianyddol. Rydw I’n dysgu cymaint!”

 

Daniel Lewis, Prentis Parciau, Lefel 2 mewn Garddwriaeth

“Rydw i’n mwynhau fy mhrentisiaeth gan fod pob dydd yn wahanol ac rydw i’n caru bod allan. Mae’r tîm wedi rhoi croeso i mi a dangos beth sy’n rhaid i mi wneud. Mae rhan o’r cwrs yn cynnwys dysgu'r enwau Lladin am blanhigion, sy’n ddiddorol iawn!”

 

Yr wythnos hon byddwn yn hyrwyddo ein Rhaglen Brentisiaethau felly edrychwch am fwy o wybodaeth ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. #Adeiladu’rDyfodol #WCP2022 #MPrentisiaidCBSMT

 

Am wybodaeth bellach am weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful cliciwch yma: https://www.merthyr.gov.uk/resident/jobs-and-training/current-job-vacancies/?lang=cy-GB&

 

I ddarganfod mwy am brentisiaethau ewch at: www.apprenticeships.gov.uk

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni