Ar-lein, Mae'n arbed amser

Penodi Prif Weithredwr Newydd

  • Categorïau : Press Release , Council
  • 17 Meh 2021
EliisMay2021

Ddoe, 16 Mehefin 2021, cymeradwywyd, mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn, benodiad Ellis Cooper fel Prif Weithredwr newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Wrth benodi Prif Weithredwr, mae’n ofynnol cael penderfyniad ffurfiol y Cyngor, ac ar 19 Mai 2021, cytunodd y Cyngor Llawn ar drefniadau’r rhestr fer a chyfweld i gynorthwyo gyda’r broses recriwtio.

Comisiynodd y Cyngor asiantaeth recriwtio arweiniol allanol, Penna, i gynorthwyo gyda’r broses recriwtio.

Gyda bod y swydd hon yn un bwysig i’r Cyngor, roedd Prif Weithredwr Cymraeg arall, gyda phrofiad penodol o ofynion y rôl, yn gweithio ochr yn ochr â’r cwmni penodi ac ymgymerwyd â phroses ddethol drylwyr.

Lluniwyd rhestr fer o dri ymgeisydd cryf gan y panel penodi ar gyfer camau olaf y cyfweld, ble y cafwyd cyfres o brofion helaeth a chyfweliadau gan amrywiaeth o grwpiau o randdeiliaid.

Ar ddiwedd y broses, daeth y Panel Penodi at ei gilydd am yr ail waith ar 3 Mehefin i gyfweld â’r tri ymgeisydd ac asesu’r holl wybodaeth a gasglwyd.

Argymhelliad y panel oedd y dylid penodi Ellis Cooper fel Prif Weithredwr.

 Cafwyd sylw gan ein Harweinydd y Cynghorydd Lisa Mytton: “Rwyf wrth fy modd ei fod wedi ei gadarnhau o’r diwedd mai Ellis yw ein Prif Weithredwr newydd ac rwyf yn ei longyfarch ar ei lwyddiant. Roedd yn ofynnol cael proses gyfweld drylwyr i sicrhau ein bod ni wedi penodi’r person cywir ar gyfer y swydd. Yn sgil calibr uchel yr ymgeiswyr, roedd yn broses heriol i bawb, fodd bynnag, gwnaeth Ellis arddangos ehangder gwybodaeth a phrofiad gan ddangos ei addasrwydd i’r rôl yn glir iawn.”

 

Bydd Ellis yn dechrau ar y swydd newydd heddiw, Dydd Iau 17 Mehefin.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni