Ar-lein, Mae'n arbed amser
Entrepreneur sydd wedi ennill gwobrau yn dewis Merthyr Tudful fel y lleoliad nesaf ar gyfer cadwyn o fwytai Eidalaidd poblogaidd
- Categorïau : Press Release
- 03 Awst 2022
Perchennog bwyty 27 oed yw Andreas Christou, sydd â dau fwyty Eidalaidd yng Nghymru — ac yn hwyrach yr haf hwn, bydd yn agor ei fwyty diweddaraf ym Merthyr Tudful.
Disgwylir y bydd Casa Bianca, sydd â chwaer-fwytai yn y Fenni a Threfynwy, yn agor ar gornel Stryd Glebeland a Stryd Fawr Merthyr Tudful erbyn diwedd haf 2022 — gan ddod â bywyd newydd i un o adeiladau hanesyddol gwag y dref.
Mae’r fenter newydd yn bosibl diolch i fuddsoddiad cynllun creu lleoedd Llywodraeth Cymru, Trawsnewid Trefi, ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Yn enillwyr balch dau Ruban Glas yng Ngwobrau Good Food 2022, cangen o fwytai yw Casa Bianca, sy’n cael eu rhedeg gan y teulu – gan ddod â blas coginio de’r Eidal i ganol Merthyr Tudful.
Ar wahân i ansawdd y bwyd gwych, y gwasanaeth a’r gwerth am arian yn y bwytai presennol, mae Casa Bianca hefyd yn adnabyddus am y llythrennau anferthol sydd i’w gweld yn y fynedfa ar Stryd Frogmore yn y Fenni - delfrydol ar gyfer Instagram.
Gyda’r gwaith adeiladu bellach wedi dechrau, disgwylir i’r bwyty ym Merthyr Tudful fod yr un mor drawiadol yn weledol, gyda choed olewydd yn tyfu o’r nenfwd – canopi dramatig i gwsmeriaid fwyta oddi tano.
Dywedodd perchennog y bwyty, Andreas Christou: “Rydyn ni wedi cael llwyddiant aruthrol gyda La Piccola yn Nhrefynwy a Casa Bianca yn y Fenni — a gobeithio y gallwn gyflawni’r un peth ym Merthyr Tudful, cyn ni ehangu ymhellach ar draws Cymru.
“Ers agor yn 2018, mae Casa Bianca yn y Fenni wedi datblygu sylfaen o gwsmeriaid teyrngar a chlos – gyda nifer yn teithio’n rheolaidd i fwyta gyda ni o Ferthyr Tudful.
“ I gydnabod hynny, bu’n uchelgais agor cangen ym Merthyr Tudful ers peth amser - ac ni allaf ddiolch digon i’r cyngor am helpu i’w wireddu. Mae canol tref Merthyr Tudful yn datblygu’n gyflym dros ben, ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o hynny.
“Rydw i wastad yn gwerthfawrogi cefnogaeth gyson y gymuned ym Merthyr, ac rwy’n edrych ymlaen at ddod â’n busnes yn agosach atyn nhw.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Y Cynghorydd Geraint Thomas: “Mae’n wych gweld bwyty poblogaidd arall yn agor yng nghanol y dref, a does dim dwywaith y bydd Casa Bianca yr un mor boblogaidd fan hyn ag ydyw yn y Fenni.
“Andreas Christou yw’r perchennog busnes diweddaraf i elwa o gyllid y Cyngor, gyda’i uchelgais personol — ochr yn ochr â’r llu o entrepreneuriaid lleol eraill rydym wedi’u helpu — gan gyfrannu’n uniongyrchol at ein uwch-gynllun hirdymor ar gyfer y dref.
“Mae cefnogi entrepreneuriaid yn y ffordd hyn yn gam pwysig iawn i’n helpu i dyfu ymhellach ddiwylliant o fusnesau annibynnol gwych ac arlwy bwyd a diod unigryw ym Merthyr Tudful – gyda’r cyfan yn dod â phwrpas newydd i adeiladau gwag canol y dref.”