Ar-lein, Mae'n arbed amser

5 rysáit sydyn i arbed arian a phweru’r Chwe Gwlad!

  • Categorïau : Press Release
  • 26 Chw 2024
TB Use

Wyddoch chi y gellir troi gwastraff bwyd yn ynni adnewyddadwy? Mae’n rhyfeddol meddwl, ond pe byddai pawb yng Nghymru’n ailgylchu dim ond un croen banana, gallai greu digon o ynni i bweru llifoleuadau Stadiwm Principality am bron i 10 diwrnod. A dim ond 47 o fagiau te wedi’u hailgylchu y byddai’n ei gymryd i greu digon o drydan i bweru set deledu am 80 munud – digon o amser i wylio dwy hanner y gêm!

Ac nid troi gwastraff bwyd yn bŵer yw’r unig reswm i wneud i’ch bwyd fynd ymhellach. Rheswm arall yw eich bod chi’n arbed arian! Bwyd yw chwarter cynnwys y bin sbwriel cyfartalog, ac yn syfrdanol, gellid bod wedi bwyta mwy nag 80% ohono. Mae hyn yn costio bron i £50 y mis i aelwyd gyfartalog – mae hynny’n gyfanswm anferth o £600 y flwyddyn.

Felly, rydyn ni am ddangos i chi sut gallwch arbed arian drwy ddefnyddio’r holl fwyd sydd dros ben yn eich oergell drwy greu prydau blasus i’w mwynhau cyn y gêm, a helpu creu ynni adnewyddadwy i’ch cyd-ffans rygbi drwy ailgylchu’r pethau na allwch eu bwyta. Dyma bum syniad rysáit ar gyfer prydau hyblyg, blasus a maethlon y gallwch eu gweini i ffrindiau a theulu cyn y gic gyntaf – a’r holl dameidiau y gallwch eu hailgylchu i helpu pweru’r Chwe Gwlad!

1. Gwedd grand ar omled padell

Gallwch droi omled sylfaenol yn saig arbennig gydag unrhyw lysiau, tatws a chig sydd angen eu defnyddio – mae winwns wedi’u gratio, pupurau a courgette yn gyfuniad blasus a lliwgar, ond gallwch ddefnyddio unrhyw lysiau neu gig. Does ond angen torri a choginio unrhyw lysiau a chig rydych am ei gynnwys, ac yna ychwanegu’r wy wedi’i chwisgo, taenu caws ar ei ben a’i grilio nes bydd yn euraidd. Blasus!

Cofiwch ailgylchu: plisg wyau, crwyn winwns, creiddiau pupurau, coesynnau neu grafion llysiau eraill na ellir eu bwyta.

2. Fajita cyw iâr rhost

Brwydro gwastraff bwyd gyda fajitas! Fe wnaiff y pryd hwn ddefnyddio bron unrhyw lysiau sydd angen eu defnyddio – fel madarch, tomatos, pupurau, sbigoglys, moron wedi’u gratio neu lysiau rhost dros ben. Sesnwch gyda’ch hoff sbeisys fajita (mae pecyn parod yn iawn!), taflwch eich cyw iâr rhost dros ben i’r cymysgedd, a’i dwymo nes bydd yn chwilboeth. Mwynhewch mewn bara tortila neu ar daten drwy’i chroen gyda thalp o hufen sur, caws wedi’i gratio a gwacamole. Blasus!

Cofiwch ailgylchu: esgyrn cyw iâr, creiddiau pupurau, topiau moron a choesynnau neu grafion llysiau eraill na ellir eu bwyta.

3. Pasta un pot

Llai o lestri budr, mwy o flas! Dechreuwch y pryd hyblyg hwn drwy ffrio eich cig a/neu lysiau dros ben – pethau fel moron wedi’u gratio, sleisys cennin, pupurau a madarch wedi’u torri’n fân, neu unrhyw beth sy’n llechu yng ngwaelod yr oergell. Yna, ychwanegwch eich hoff saws pasta (Pesto? Tomato? Chi piau’r dewis!), ei goginio nes bydd yn chwilboeth a’i weini gyda chaws wedi’i gratio – et voilà!

Cofiwch ailgylchu: Gwreiddyn y cennin, topiau moron, coesynnau neu grafion llysiau eraill na ellir eu bwyta, esgyrn cig.

4. Tosti caws epig

Yng Nghymru, rydyn ni’n dallt y dalltings gyda tostis caws – caws pob yw un o’n bwydydd enwocaf ni, wedi’r cwbl – ond gallwch ddyrchafu’r byrbryd cysurlon hwn i greu pryd gwychach fyth. Bydd bron unrhyw dameidiau o waelod yr oergell yn gwneud eich tosti’n epig – fel tomatos, cennin neu bupurau unig angof, neu gig neu ham wedi’i goginio, neu hyd yn oed llwyaid neu ddwy o’r cyri neu tsili sydd dros ben ers neithiwr. Gallwch ei weini gyda thameidiau o salad o’r oergell ar y naill ochr.

Cofiwch ailgylchu: coesynnau tomatos, creiddiau pupurau, gwreiddiau’r cennin, coesynnau neu grafion llysiau eraill na ellir eu bwyta.

5. Pwdin iogwrt

Pwdin iachus y bydd hyd yn oed y plant yn dwli arno! Byddwch yn greadigol gyda’r tameidiau olaf o ffrwythau drwy roi haenau o fanana, afal (does dim angen ei phlicio!) neu unrhyw ffrwyth sydd angen ei ddefnyddio rhwng haenau o iogwrt. Taenwch ychydig o granola crensiog neu fisgedi wedi’u torri’n fân a diferyn o fêl a byddwch yn barod am alwadau am ragor.

Cofiwch ailgylchu: crwyn bananas, creiddiau afalau, crwyn ffrwythau na ellir eu bwyta.

I ddysgu mwy am sut i wneud i’ch bwyd fynd ymhellach a darganfod sut mae gwastraff bwyd yn creu ynni, ewch i Cymru yn Ailgylchu.

Gallwch hefyd ymuno â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #ByddWychAilgylcha neu #BeMightyRecycle – gadewch inni wybod pa fwyd fyddwch chi’n ei weini yn ystod pencampwriaeth y Chwe Gwlad!

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni