Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae adeilad y Gyfnewidfa Bysiau yn ennill gwobr genedlaethol arall

  • Categorïau : Press Release
  • 26 Hyd 2021
Bus station CEW award

O fewn mis, mae adeilad y Gyfnewidfa Bysiau newydd ym Merthyr Tudful wedi ennill ail wobr genedlaethol o fri.

Ddydd Gwener diwethaf, fe gyhoeddwyd bod yr Orsaf Fysiau wedi ennill y categori “Cynaliadwyedd” yng Ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru (CEW) 2021, mewn seremoni a recordiwyd ymlaen llaw.

Rhoddir y Wobr Cynaliadwyedd am “berfformiad uchel o ran yr amgylchedd a’r hinsawdd ym maes adeiladu, a pherfformiad sy’n diwallu anghenion y cyfnod presennol am dai, amgylcheddau gwaith a seilwaith heb gyfaddawdu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i gwrdd â’u hanghenion hwythau”.

Wrth gyhoeddi’r penderfyniad, dywedodd Cat Griffith-Williams, Prif Weithredwr CEW: “Gwnaeth y prosiect hwn argraff fawr ar y beirniaid gan ei fod wedi darparu hyb trafnidiaeth sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Rhoddwyd ystyriaeth i gynaliadwyedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd a’r ymddygiad oedd i’w weld ar y safle yn ystod y gwaith adeiladu.”

Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth Cymru a dyma’r hyb trafnidiaeth cyntaf yng Nghymru sy’n gweithio’n gyfan gwbl â thrydan, a’r unig un sy’n gwefru cerbydau trydan ar y safle. Nid yw’n defnyddio unrhyw nwy na chyflenwadau tanwydd ffosil eraill ac mae ganddo danc cynaeafu dŵr glaw ar gyfer y toiledau cyhoeddus.

Daeth Morgan Sindall, y Prif Gontractwr, o hyd i ddeunyddiau naturiol, cadarn a hirbarhaol, a chodwyd yr adeilad mewn haenau yn unol ag egwyddorion allweddol yr “Economi Gylchol”, fel y gellid gwahanu, adnewyddu neu ddisodli pob haen.

Gan fod gan yr Afon Taf gerllaw yn meddu ar sawl rhywogaeth o adar a bywyd gwyllt nodedig gan gynnwys glas y dorlan a’r crëyr, gosododd y contractwr orsafoedd bwydo adar gwyllt yn y rhannau tawelaf o’r safle, ynghyd â chlwydfannau ystlumod ar draws y gwaith cerrig naturiol.

Roedd Cyngor Bwrdeistref y Sir hefyd ar y rhestr fer ar gyfer “Cleient Gorau” Morgan Sindall am ei waith cydweithredol, ac mae’r Gyfnewidfa wedi cyrraedd y rhestr fer am Ragoriaeth Cynllunio y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) yng Nghymru 2021.

Fis diwethaf, y Cyngor oedd y cyntaf i ennill clod fel “Cleient y Flwyddyn” mewn Seremoni Wobrwyo a gynhaliwyd gan y Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB) yn Llundain yn 2021.

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Trawsnewid a Masnacheiddio: “Rydyn ni wrth ein bodd fod y prosiect gwych hwn wedi ennill ail wobr genedlaethol am yr adeilad – mae’r cyfleuster yn llawn haeddu’r wobr am ei fod yn wirioneddol arloesol.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni