Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y gyfnewidfa bysiau yn ennill gwobr DU arall

  • Categorïau : Press Release
  • 06 Rhag 2022
Bus Station Award

Mae Cyfnewidfa Fysiau Merthyr Tudful wedi ychwanegu gwobr arall i’w casgliad helaeth gyda chydnabyddiaeth ar hyd a lled y DU yng Ngwobrau Institiwt Cynllunio Trefol Frenhinol am Ragoriaeth Cynllunio.

Gan fynd un cam ymhellach nag yn 2021 pan enillodd wobr  Ragoriaeth mewn Cynllunio ar gyfer Economi Lwyddiannus RTPI Cymru, gan gipio'r wobr genedlaethol eleni.

Wrth wneud y cyhoeddiad yn y seremoni yn Llundain, dwedodd y beirniaid: “Llongyfarchiadau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful am ei chyfnewidfa teithio, gyda nodweddion cynaliadwy blaengar a chyflwyniad a yrrwyd gan y gymuned.

“Mae hwn yn broject uchelgeisiol ac yn sicrhau ei rôl a chysylltiadau at y dyfodol. Mae to’r orsaf fysiau yn adlewyrchu ffwrneisi'r gweithfeydd haearn a oedd yn nodwedd o dirlun y dref  ac sy’n atgyfnerthu at synnwyr y lle.”

Wedi ei gyllido gan Lywodraeth Cymru, hwb cyfan gwbl drydanol Cymru yw’r unig un sy’n gallu gwefru cerbydau ar y safle, sydd a dim cyflenwadau nwy na thanwydd ffosil ac sy’n casglu dŵr ar gyfer y tai bach o ddŵr glaw. Hon yw ei chweched wobr mewn 18 mis.

Dwedodd Cyfarwyddwr Cynllunio a Gwasanaethau Cymdogaeth y Cyngor Judith Jones: “Rydym wrth ein boddau, ar ran yr awdurdod lleol a’r prif gontractwyr Morgan Sindall a Capita Redstart, i fynd un yn well na llynedd a churo ymgeiswyr o ar draws y DU.”

Dwedodd Arweinydd y Cyngor y Cyng. Geraint Thomas: “Mae’r orsaf fysiau wedi ennill bron bob gwobr y mae wedi ei henwebu amdani ers ei hadeiladu. Nododd y beirniaid bod safon yr ymgeiswyr eleni yn rhagorol, felly mae ennill gwobr genedlaethol yn fwy nodedig fyth.”

@RTPIPlanners #RTPIAwards rtpi.org.uk/excellence

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni