Ar-lein, Mae'n arbed amser
#Camau nesa; #Camau bach: gwneud llwyddiant o’r Gymraeg; ein tynged
- Categorïau : Press Release
- 20 Meh 2023
Dydd Iau, 22 Mehefin, bydd Jeremy Miles, Gweinidog yr Iaith Gymraeg ac Addysg yn dyst i weld Merthyr ‘yn uno,’ wrth iddo agor Cynhadledd wyneb yn wyneb gyntaf Iaith Gymraeg Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a fydd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Fusnes Orbit.
Bydd y gynhadledd yn gyfle i ni ddathlu’r daith ers lansio’r Cynllun Strategol Addysg Gymraeg a Strategaeth yr Iaith Gymraeg. Er mwyn dathlu hyn a’n diwylliant, ein treftadaeth a’n hanes, bydd plant a phobl ifanc Merthyr Tudful yn perfformio cân arbennig; ‘Merthyr Forever’ / ‘Merthyr am byth.’ Bydd Ysgol Gynradd Caedraw yn arwain y perfformiad.
Mae’r Gymraeg yn berchen i ni gyd a bydd y gynhadledd yn arddangos gweithgraeddau ar y cyd, ar draws amrywiaeth o bartneriaid er mwyn sicrhau llwyddiant ein strategaethau. Bydd y Blynyddoedd Cynnar, Datblygiad y Gweithlu, y Gymraeg yn y Cwricwlwm a’r Gymraeg yn y gymuned yn ganolbwynt i’r dathliad a’r trafodaethau. Byddwn yn croesawu 65 o unigolion o sefydliadau lleol a chenedlaethol a fydd yn parhau i fod yn rhan o’r daith.
Dywedodd Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg, y Cynghorydd Michelle Symonds;
“Mae hwn yn amser cyffrous i Ferthyr Tudful wrth i ni ddatblygu’r iaith Gymraeg ac mae partneriaid a’r Awdurdod Lleol yn cyfrannu at Strategaeth y Gymraeg 2050, Llywodraeth Cymru.
Rwy’n hynod falch i weld yr iaith Gymraeg yn ffynnu ym Merthyr Tudful, yn ein cymunedau a’n ysgolion. Rydym yn datblygu ar brosiectau blaenorol sydd wedi cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mi fydd #camau bach yn arwain at lwyddiannau mawr! Ymunwch â ni, fel un!
Mae gennym ein gweledigaeth a’n brand - ‘Shwmaeronment.’ Mae’r ymwybyddiaeth o’r Gymraeg wedi tyfu yn ystod y dair mlynedd ddiwethaf. Rydym wedi mwynhau digwyddiadau cymunedol fel Diwrnod Shwmae a’r Ffair Nadolig a phob blwyddyn, maent yn tyfu’n fwy ac yn well. Byddwn yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant.”
Fel dywed geiriau’r gân, mae gennym ddiwylliant, hanes a threftadaeth gyfoethog. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau mai llwyddiant y Gymraeg yw’n tynged.
Edrychwch allan am ein camau nesaf, gwrandewch ar y gân ac ymunwch â ni i’w chanu gan ddathlu pwy ydym, lle yr ydym wedi dod a’n dyfodol a hynny fel un.