Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cerbyd gorfodi CCTV yn esgor ar ganlyniadau yn y frwydr yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol

  • Categorïau : Press Release
  • 03 Maw 2022
Parking enforcement vehicle

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi buddsoddi mewn cerbyd gorfodi sydd yn cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf er mwyn mynd i’r afael â pharcio anghyfreithlon. 

Mae camerâu’r cerbyd yn tynnu lluniau o rifau cofrestru ac yn galluogi swyddogion i gyflwyno hysbysiadau cosb penodedig – troseddau sifil yn hytrach na throseddol.

“Bydd y camerâu’n cael eu defnyddio gan yr adran barcio i gofnodi cerbydau sydd yn parcio’n anghyfreithlon ar groesfannau sebra, safleoedd bysiau a llinellau melyn ger ysgolion,” meddai’r Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd. 

“Rydym yn gwneud hyn er mwyn osgoi tagfeydd ar y ffyrdd, cadw’n plant yn ddiogel ger ysgolion a sicrhau nad oes sbwriel yn cael ei adael ar hyd ein strydoedd ac yn ein cymunedau.”

Mae camerâu CCTV modern yn awr ynghanol y dref, mae’r meysydd parcio yn fwy diogel yn sgil gwell goleuadau ac mae gatiau wedi cael eu gosod ar lonydd cefn lle y cofnodwyd achosion o gamddefnyddio cyffuriau, yfed a thipio anghyfreithlon. Mae’n fan CCTV hefyd wedi bod yn cynnal gweithrediadau ar y cyd mewn ardaloedd lle y nodwyd achosion o yrru anghymdeithasol.

“Byddwn yn defnyddio’n holl bwerau ac yn cyflwyno dirwyon er mwyn ceisio lliniaru’r problemau hyn,” meddai’r Cynghorydd Thomas. “Gyda’n gilydd, gallwn fynd i’r afael â’r problemau a gall cefnogaeth ein preswylwyr wrth nodi’r problemau hyn ar ein gwefan -www.merthyr.gov.uk ‘Adroddwch amdano’ – ein cynorthwyo’n fawr.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni