Ar-lein, Mae'n arbed amser

Newidiadau i barcio canol y dref

  • Categorïau : Press Release
  • 14 Chw 2023
Town centre car parking

Fel rhan o ymgynghoriad presennol y Cyngor ar ail ddatblygiad Canolfan Siopa Santes Tudful (ST2) a’r Cynllun canol tref ehangach, rydym yn edrych ar wneud newidiadau i’r mannau parcio sydd ar gael.

Yn dilyn ceisiadau gan fusnesau lleol, adolygodd swyddogion y Cyngor sut oedd meysydd parcio canol y dref yn gweithredu, a phenderfynu bod angen newid er lles yr economi leol.

“Gwelwyd bod digon o lefydd parcio, ond bod y rhai mwyaf cyfleus ar gyfer siopa yng nghanol y dref yn llawn trwy’r dydd gan bobl yn parcio yn hir dymor,” meddai Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Geraint Thomas.

“Felly i gynorthwyo busnesau canol y dref, rydym yn cynnig newid meysydd parcio Stryd Gillar a Stryd y Castell – nid y maes parcio aml lawr – i aros cyfnod penodol.

“Bydd hyn yn cynyddu'r nifer o lefydd parcio sydd mwyaf cyfleus i siopwyr fynd i ganol y dref. Bydd digon o lefydd parcio arhosiad hir yn y maes parcio aml lawr, maes parcio’r coleg a maes parcio’r Afon Taf.”

• Os ydych eisiau trafod y newidiadau i barcio fel rhan o’r ymgynghoriad ST2 neu Gynllun Canol y Dref, galwch heibio siop ymgynghori’r Cyngor yn y ganolfan siopa. Rydym ar agor o10am-4pm, ddydd Gwener Chwefror 9 ac o ddydd Mawrth Chwefror 14 tan ddydd Gwener Chwefror 17.

Mae copïau papur o’r arolwg ar gael o’r siop ac o’r Ganolfan ddinesig, neu gallwch gymryd rhan ar-lein ar: http://bit.ly/3joV9LJ

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni