Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cau rhan o Heol Faenor ar gyfer gwaith atal tirlithriad
- Categorïau : Press Release
- 17 Awst 2023
O dydd Llun 4ydd o Medi bydd rhaid cau rhan o Heol Faenor rhwng Aberglais Inn a Dol-Y-Coed House am gyfnod o oddeutu saith mis.
Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, mae’r Cyngor wedi bod yn cydweithio â daearegwyr, peiriannwyr geotechnegol a chontractwyr arbenigol er mwyn ymchwilio i achos y tirlithriadau a datblygu argymhellion i weithredu cynllun sefydlogi ar gyfer y lan sydd uwch Heol Faenor.
Bu’n rhaid cau’r ffordd ar nifer o achlysuron yn ystod y tair blynedd ddiwethaf er mwyn caniatáu gwaith archwilio a gwneud gwaith atgyweirio. Mae canlyniadau’r gwaith cychwynnol wedi bod yn hanfodol er mwyn cynllunio datrysiad hirdymor, parhaol ac atal tirlithriadau rhag digwydd yn y dyfodol.
Rydym yn awr mewn sefyllfa i weithredu’r cynllun parhaol ond bydd hyn yn golygu y bydd rhaid cau rhan o Heol Faenor rhwng Aberglais Inn a Dol-Y-Coed House am gyfnod o oddeutu saith mis.
Er y byddai wedi bod yn well gennym wneud y gwaith hwn yn ystod misoedd y gwanwyn/haf, mi fyddai gwneud hynny wedi tarfu ar dwristiaeth a busnesau’r ardal. Er mwyn lleihau’r effaith ar y gymuned, gymaint ag y sydd yn bosib, cynlluniwyd i’r gwaith ddechrau yn yr hydref a bydd y ffordd ar gau o Ddydd Llun 4 Medi 2023.
Mae’r ffordd yn gul ac am resymau diogelwch, ni fydd yn bosib i unrhyw gerbyd basio drwy’r rhan hon o’r ffordd yn ystod cyfnod y gwaith. Bydd y gwyriad yn mynd trwy Pant, yn debyg i’r hyn ddigwyddodd yn y gorffennol a bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu ar wefan y Cyngor gan gynnwys gosod arwyddion, yn nes at y dyddiad.
Deallwn y bydd y gwaith hwn yn achosi anghyfleustra, yn enwedig yn sgil gwaith deuoli’r A465 ond mae’n angenrheidiol ein bod yn datblygu’r cynllun hwn cyn y daw arian Llywodraeth Cymru i ben y flwyddyn nesaf.