Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ymladdwyr Eco Coed y Dderwen yn brwydro dros Gwm Gwyrddach

  • Categorïau : Press Release , Education , Schools
  • 06 Meh 2022
IMG-20210723-WA0018 - Copy

Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Coed Y Dderwen, Merthyr Tudful wedi bod yn gwneud y mwyaf o’r amser yn yr ysgol yn dilyn y cyfnod clo trwy ddefnyddio twneli poli a choedwig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Gydag arweiniad pwyllgor eco ‘ Coedwigwyr ifanc RFS’, mae disgyblion yn datblygu sgiliau cynaliadwy fel tyfu llysiau, ffrwythau a phlanhigion yn yr ecosystem yn y twneli poly. Maent hefyd yn gofalu am bryfaid ac adar o fewn tir yr ysgol, yn cynnal gwaith cadwriaethol ar y goedwig ac yn dysgu am bwysigrwydd ailgylchu, lleihau gwastraff ac arbed dŵr y maent hefyd yn eu rhoi ar waith drwy'r ysgol.

Mae’r disgyblion yn dilyn strategaeth eco trwy’r flwyddyn ac yn dysgu am gyfrifoldeb amgylcheddol a throsglwyddo'r sgiliau a ddysgwyd i’r gymuned er mwyn hyrwyddo ffordd ddiogel, glan a chost effeithiol o fyw. Maent eisoes yn paratoi at stondin marchnad yn yr ysgol ym mis Gorffennaf pan fyddant yn gwerthu llysiau a phlanhigion a dyfwyd i bobl leol. Maent hefyd wedi dechrau paratoi ar gyfer stondin farchnad ar tir eu hysgol ar gyfer mis Gorffennaf lle y byddent yn gwerthu cynnyrch a phlanhigion y maent wedi eu tyfu dros y flwyddyn ddiwethaf i breswylwyr. 

Mae preswylwyr wedi profi effaith dinistriol byd natur a phroblemau newid hinsawdd sydd wedi ei effeithio yn sylweddol gan ddyn gyda thywydd anwadal, llygredd aer, gwres llethol a newidiadau i fioamrywiaeth. Mae effaith economaidd a chymdeithasol hefyd gyda phobl yn dioddef o lifogydd dinistriol. Mewn arolwg ar draws y fwrdeistref nododd 85% o breswylwyr ei bod yn ‘bwysig iawn’ neu yn ‘eithaf pwysig’ wrth ateb y cwestiwn, ‘pa mor bwysig yw hi i’r Cyngor gynnal gweithgareddau i daclo newid hinsawdd?’ Tystiolaeth bod preswylwyr yn pryderu yn fawr am yr argyfwng hinsawdd. 

Dwedodd Pennaeth Coed Y Dderwen Sarah Townsin,: “Yn ysgol Coed-Y-Dderwen, mae pwysigrwydd cynaliadwyedd wedi ei fewnosod yn ein cwricwlwm ac yn ein cynlluniau ar gyfer cwricwlwm y dyfodol. Ein bwriad yw bod gan bob disgybl ymwybyddiaeth o’r byd o’u cwmpas a’u heffaith ar ei ddyfodol. Rydym yn gwneud yn fawr o’n hardal allanol wych a’r goedwig er mwyn cyfoethogi'r cwricwlwm, tyfu ffrwythau a llysiau er mwyn ysbrydoli'r gymuned ehangach i fod yn fwy cynaliadwy yn arbennig o ystyried yr argyfwng costau byw. Rydym mor falch i fod yr ysgol gyntaf yng Nghymru i ennill Gwobr Coedwigwyr Ifanc yr RFS ac mae’r ysgol wedi mwynhau cymryd rhan ym mhroject Canopi Gwyrdd y Frenhines, sydd wedi cyfoethogi ei dysgu a chynyddu eu gwybodaeth am yr amgylchedd o’u cwmpas. Mae ein gweledigaeth ar gyfer lles a chynaliadwyedd yn gyrru angerdd yr ysgol am yr awyr agored.”

Un ffordd y mae’r Cyngor wedi bod yn taclo cynaliadwyedd yw trwy ymchwilio i’r posibilrwydd o adeiladu Ysgolion Cynradd ac Uwchradd Net Sero erbyn 2030, gyda Choed y dderwen yn enghraifft o fod yn agos i’r nod hwn gyda’i mesurau arbed ynni. Mae gan yr ysgol dair ffordd sylweddol o leihau ôl troed carbon fel goleuadau LED trwy’r ysgol, system reoli boiler sy’n arbed llawer o nwy a phaneli solar ar do'r ysgol, sy’n gadael dim ôl troed carbon o gwbl.

Dwedodd y Cynghorydd newydd etholedig a’r Aelod Cabinet dros Addysg, Michelle Jones: “Rydw i’n edmygu'r hyn y mae staff a disgyblion Coed y Dderwen wedi ei wneud i barchu'r amgylchedd naturiol a datblygu ymarferion cynaliadwy. Mae gwaith yr ysgol yn ymgorffori gweledigaeth ac amcanion strategaeth addysg CDCS. Bydd y sgiliau hyn seilwaith cadarn ar gyfer eu dyfodol ac yn neges i eraill yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Mae Coed y dderwen yn enghraifft neilltuol o ysgol yn mynd y cam ychwanegol. Mae arfer yr ysgol yn dangos ei bod yn deall y cyfrifoldeb o gefnogi ymarferion busnes cynaliadwy yn y Fwrdeistref Sirol.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni