Ar-lein, Mae'n arbed amser
Dewch i Ferthyr Tudful i fod yn greadigol!
- Categorïau : Press Release
- 17 Meh 2022

Mae pobl leol sydd a diddordeb mewn dysgu mwy am gynhyrchu radio ac ysgrifennu yn cael y cyfle I gymryd rhan mewn cyfres o gyrsiau am ddim y penwythnos hwn mewn dau leoliad ym Merthyr Tudful.
Mae Redhouse Cymru a Hyb Greadigol 3G yn y Gurnos yn cynnal pedwar gweithdy wedi ei drefnu gan broject Creu Cyffro gwerth £1m Merthyr Tudful, cynllun hyfforddi sy’n helpu pobl leol i ddod yn artistiaid, cerddorion, actorion a gwneuthurwyr ffilmiau.
Mae’r Rhaglen Hyfforddiant y Diwydiannau Creadigol yn cael ei gydlynu gan Lles@Merthyr ac yn cael ei gefnogi gan 10 o bartneriaid yn cynnwys, Cerddoriaeth Gymunedol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Y Brifysgol Agored a Screen Alliance Wales.
Bydd y chwe mis nesaf yn gweld rhaglenni hyfforddiant yn cael eu cynnal mewn lleoliadau partner Theatr Soar, Y Coleg Merthyr Tudful, Redhouse Cymru, Y Bothy ym Mharc Cyfarthfa, a’r Clinig Creadigol yn y Gurnos.
Yn Redhouse Cymru ddydd Saturday (Mehefin 18),cynhelir gweithdy Ysgrifennu Ffilmiau Sylfaenol, Dod a’r stori yn fyw, ac Ysgrifennu Creadigol Dychmygol rhwng 10.30am a 3pm.
Yn Hyb Greadigol y 3G, cynhelir cwrs Radio Platfform ddydd Sadwrn a Sul Mehefin 18 ac 19 o 11am hyd 4pm.
E-bostiwch merthyr@wmc.org.uk er mwyn archebu lle.
- Mae Merthyr Tudful yn un o ddim ond 100 cymuned yn y DU i dderbyn cyllid gan Gronfa Adnewyddiad Cymunedol y DU. Cynllun £220 million i helpu’r economi adfer o effaith y Coronafeirws trwy gefnogi projectau sy’n hybu buddsoddiad mewn sgiliau, busnesau lleol a chymunedau a helpu pobl i ddod o hyd i waith.