Ar-lein, Mae'n arbed amser
Byrddau cyfathrebu wedi'u gosod ar draws Bwrdeistref Sirol Merthyr
- Categorïau : Press Release
- 19 Gor 2024
Mae CBS Merthyr Tudful yn hynod ddiolchgar o fod wedi derbyn byrddau cyfathrebu sy'n seiliedig ar symbolau drwy gyllid gan gynllun 'Siarad â Fi' Llywodraeth Cymru.
Mae'r byrddau hyn yn offer amhrisiadwy sydd yn cynorthwyo plant di-siarad i gyfleu eu hanghenion, eu meddyliau a'u hemosiynau trwy gyffwrdd â'r symbolau ar y bwrdd. Drwy ddarparu'r byrddau cyfathrebu hyn, mae'r Cyngor yn ymdrechu i greu amgylchedd mwy cynhwysol i'n holl blant, gan sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fynegi eu hunain yn effeithiol.
Mae'r awdurdod yn credu y bydd y byrddau hyn o fudd mawr i'r plant yn ein gofal ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu.
Mae Theo Jones yn 5 oed ac wedi darganfod bwrdd cyfathrebu yn ei barc lleol yn ddiweddar. Dywedodd ei fam, Carly: "Bydd y byrddau wir yn fy helpu i ddeall beth sydd ei angen ar Theo pan fyddwn yn y parc. Mae wedi arfer defnyddio PECS (System Cyfathrebu Cyfnewid Lluniau) yn yr ysgol felly bydd hyn yn wych i ni."
Gellir dod o hyd i'r byrddau cyfathrebu ar hyn o bryd mewn 9 o feysydd chwarae i blant ledled y fwrdeistref, gan gynnwys:
- Cyfarthfa
- Tre Tomos
- Keir Hardie, Twynyrodyn
- Ffordd Moy, Aber-fan
- Trefechan
- Canol Troedyrhiw
- Edwardsville
- Treharris
- Pentrebach
Bydd 10fed bwrdd yn cael ei osod ym Mharc Taf Bargod yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Dywedodd Rhiannon Stephens Davies, Pennaeth Ysgol Maes Glas: "Mae hyn yn newyddion cyffrous. Erbyn hyn mae llawer o blant a phobl yn defnyddio symbolau a lluniau i gyfathrebu. Mae hyn yn wych ar gyfer codi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd ac mae hefyd yn cefnogi’n plant i ddefnyddio eu sgiliau cyfathrebu pan fyddant allan gyda'u ffrindiau a'u teuluoedd."
Ychwanegodd Kath Bowen, Swyddog Arweiniol Datblygu Iaith Cynnar yr Awdurdod Lleol: "Mae natur ddwyieithog y byrddau yn gyfle gwerthfawr i helpu teuluoedd di-Gymraeg i ddatblygu sgiliau Cymraeg sylfaenol."
Dywedodd Geraint Thomas, Arweinydd Cyngor Merthyr a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae'r byrddau cyfathrebu hyn yn offer anhygoel ar gyfer helpu plant di-eiriau i fynegi eu hunain. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i greu amgylchedd mwy cynhwysol i'n holl blant, gan sicrhau bod gan bawb lais."