Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ymgynghoriad ar opsiynau diwygiedig ar gyfer Ysgol Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir 3-16

  • Categorïau : Press Release
  • 20 Ebr 2021
New catholic school (1)

Gofynnir am safbwyntiau preswylwyr a rhanddeiliaid eraill ynghylch opsiynau diwygiedig ar gyfer ysgol newydd pob oed 3-16 Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir (GG) i Ferthyr Tudful.

Yn dilyn ymgynghori, cymeradwyodd y Cyngor Bwrdeistref Sirol ym mis Ionawr eleni, dir i’r de o’r Greenie, sef i’r gorllewin o Heol Galon Uchaf, fel y safle ar gyfer datblygiad yr ysgol.

Penodwyd cwmni adeiladu arweiniol, Willmott Dixon Construction, i ddylunio a datblygu’r ysgol. Gwnaeth y tîm gyflawni ‘gwaith cwmpasu’ ychwanegol i fodloni nodau’r Cyngor o gyflwyno dewis amgen o ran lleoli’r ysgol ar y safle, gan fynd i’r afael â phryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad gwreiddiol a’r potensial i wella’r cyfleusterau cymunedol presennol. 

O ganlyniad, mae’r ddau opsiwn isod yn cael eu gosod ger bron:

  • Opsiwn 1 (datblygu opsiwn A a gymeradwywyd, o’r ymgynghoriad gwreiddiol ym mis Tachwedd 2020) – bellach gyda’r holl barcio ceir a chyfleusterau gollwng ar yr un ochr o’r ffordd ag adeilad yr ysgol. Byddai’r defnydd o un o’r caeau chwarae hefyd yn cael ei rannu a’i wella i fod yn gyfleuster pob tywydd, gyda pharcio ceir wedi ei ddarparu ar gyfer mynediad i’r gymuned y tu allan i oriau ysgol.
  • Opsiwn 2 (ffurfweddiad amgen i’r safle cyfan) – lleoli adeilad yr ysgol ar gaeau chwarae cyfredol y Greenie, gyda’r ddau gae chwarae yn cael eu hadleoli i ben deheuol y safle. Byddai un o’r caeau chwarae yn gyfleuster pob tywydd sy’n cael ei rannu, a byddai’r cae arall yn hygyrch i’r gymuned ar bob adeg.

Mae’r Cyngor yn rhedeg ymarfer ymgynghori pythefnos o hyd o Ebrill 23 – 7 Mai.

Mae dolenni i’r arolwg a chynlluniau’r safle fan hyn: 

https://www.smartsurvey.co.uk/s/rcschoolnewoptions/

Mae digwyddiadau ymgynghori rhanddeiliaid hefyd yn cael eu cynllunio ar-lein fel bod safbwyntiau’r preswylwyr, defnyddwyr cymunedol am gaeau chwarae Greenie, ysgolion / llywodraethwyr, a rhanddeiliaid allweddol eraill yn cael eu hystyried ac yn helpu i lywio’r penderfyniad a gafwyd.

Disgwylir i’r ysgol newydd agor ar y safle newydd ym mis Medi 2023, a bydd ei hadeiladu yn golygu cau ysgol gyfredol Ysgol Uwchradd Esgob Hedley, Ysgol Gynradd Gatholig Sant Aloysius a Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Gatholig Sant Illtyd a’r Santes Fair.

Mae’r ddarpariaeth hon yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac Archesgobaeth Caerdydd. Dywedodd y Gwir Barchedig George Stack, Archesgob Caerdydd ‘Bydd y ddarpariaeth newydd yn ein gosod mewn sefyllfa fanteisiol i ddarparu’r cwricwlwm newydd a rhoi buddion taith ddi-dor i’n plant’ ychwanegodd ‘ bydd yn ein galluogi ni i barhau i adeiladu ar yr addysg dda iawn a gaiff ei chynnig ar hyn o bryd mewn campws sydd ar flaen y gad.’

Dywedodd y Prif Swyddog, Dysgu, Sue Walker: ‘Rydym yn gofyn i’r gymuned ein cefnogi wrth ystyried yr opsiynau diwygiedig a dewis y safle gorau posibl i’r ysgol, y gymuned a rhanddeiliaid.’

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni