Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ymgynghoriad ar gynlluniau i wella’r ddarpariaeth ar gyfer cerddwyr yng nghanol y dref

  • Categorïau : Press Release
  • 30 Meh 2021
Victoria Street

Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn ymgynghori â phreswylwyr a busnesau ar gynlluniau i greu gwell amgylchedd yng nghanol y dref gan wneud gwelliannau i groesfan bresennol Stryd Fictoria.

Byddai’r argymhelliad yn cyflwyno croesfan sebra a llwyfan lletach, wedi ei godi i gerddwyr allu croesi.

Bydd y llwyfan presennol yn ymestyn o’r gilfan lwytho presennol ar Stryd Fictoria i’r gilfan ar y Stryd Fawr. Bydd arwyneb newydd yn cael ei gosod ar yr ardal er mwyn  gwahaniaethu rhwng yr ardal i gerddwyr a’r gerbytffordd.

Er mwyn gwneud y gwaith hwn, bydd angen cau rhai ffyrdd a bydd hyn yn amharu ar ganol o dref am oddeutu tair wythnos.

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio, Tai a Masnacheiddio: “Ymddiheurwn, o flaen llaw am yr anghyfleustra y bydd hyn yn ei achosi, yn bennaf ar gyfer gyrwyr tacsi a cherbydau gwasanaeth.

“Ond rydym yn gofyn i chi fod yn amyneddgar gan y bydd y gwelliannau a ddaw yn sgil hyn yn sicrhau y bydd ymweld â chanol y dref yn brofiad mwy diogel a phleserus i siopwyr a phreswylwyr. Yn ogystal â chynnal Arolwg, byddwn yn cynnal cyfarfodydd ar Teams â’r cyhoedd a bydd swyddogion hefyd yn siarad, wyneb yn wyneb â busnesau lleol.” 

Er mwyn cael dweud eich dweud ar yr argymhellion, cyfranogwch yn yr arolwg byr, canlynol a fydd ar gael hyd at ganol dydd, 2 Gorffennaf 2021.

Rydym hefyd yn cynnal dau gyfarfod rhithiol ar Teams, Ddydd Mawrth 6 Gorffennaf am 12.30pm ac am 6.30pm er mwyn i breswylwyr glywed mwy o fanylion a chael cyfle i ofyn cwestiynau. E-bostiwch active.travel@merthyr.gov.uk er mwyn cadarnhau’ch lle.  

Dolen i’r arolwg yma https://bit.ly/35XGrRk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni