Ar-lein, Mae'n arbed amser

Wedi cymryd alcohol neu gyffuriau? Peidiwch â gyrru

  • Categorïau : Press Release
  • 11 Rhag 2024
drugs and driving

Mae gan bob gyrrwr a reidiwr gyfrifoldeb cyfreithiol i gydymffurfio â'r gyfraith ynghylch gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau. Mae amhariad yn cynyddu'r risg o wrthdrawiad yn arwyddocaol a gall arwain at ganlyniadau dinistriol.

Wrth inni ddechrau tymor yr ŵyl a'r cyfnod yma o ddathlu, mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwneud y dewisiadau cywir i sicrhau bod pawb yn cyrraedd adref yn ddiogel.

Mae alcohol yn rhoi ymdeimlad ffug o hyder, bydd eich barn yn cael ei heffeithio, bydd ymatebion atgyrch yn gostwng, ac mae amserau ymateb yn arafach.

Os ydych chi'n bwriadu gyrru neu reidio cerbyd, osgowch alcohol yn llwyr. Dyma'r unig ffordd i fod yn sicr eich bod dan y terfyn yfed a gyrru. Gadewch eich cerbyd gartref a chyn mynd allan gwnewch gynlluniau ynglŷn â sut i fynd yn ôl – mae cadw rhif darparwr tacsis lleol yn eich ffôn neu lawrlwytho ap tacsis yn gallu arbed amser a thrafferth yn nes ymlaen.

Er bod gan lawer o bobl ymwybyddiaeth o beryglon yfed a gyrru, efallai y bydd rhai yn llai cyfarwydd â'r effeithiau y mae cyffuriau cyfreithlon ac anghyfreithlon yn eu cael ar eu gallu i yrru'n ddiogel, ac o fewn y gyfraith.

Mae'n drosedd i rywun yrru gydag unrhyw un o'r 17 o gyffuriau a reolir uwchlaw lefel benodol yn y gwaed – mae hyn yn cynnwys cyffuriau anghyfreithlon a meddygol. Os yw'n amharu ar eu gyrru, mae hefyd yn anghyfreithlon i rywun yrru gyda chyffuriau cyfreithlon yn eu corff, fel y rhai a ragnodir gan feddyg neu a brynir dros y cownter. Gall meddyg, fferyllydd neu weithiwr meddygol proffesiynol arall roi gwybod ichi a allai unrhyw feddyginiaeth effeithio ar eich gyrru.

Dylid osgoi cyffuriau anghyfreithlon bob amser, ond yn anffodus mae lleiafrif o bobl yn dewis torri'r gyfraith. Gall canabis arwain at ddiffyg canolbwyntio, adweithiau arafach a pharanoia. Gall cocên arwain at ymddygiad mwy ymosodol, mwy o gymryd risg a gor-hyder.

Dywedodd Rhys John-Howes, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru: “Gall effeithiau cyffur fod yn gymharol fyrhoedlog ond maen nhw’n gallu aros yn eich system am oriau lawer ar ôl eu defnyddio – gall rhai cyffuriau aros yn y corff am sawl diwrnod. Hyd yn oed pan fydd yn teimlo bod y cyffur wedi pylu, mae modd ei ganfod yn eich system o hyd – mewn poer, gwaed neu wrin – am gyfnod hirach o amser. 

“Mae gyrru ar ôl defnyddio cyffuriau yn annerbyniol ac yn creu risg i holl ddefnyddwyr y ffordd.”

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Jolene Mann, Pennaeth Gweithrediadau Arbenigol Heddlu Dyfed Powys; “Bob blwyddyn, mae gyrwyr ar gyffuriau yn rhan o wrthdrawiadau difrifol ac angheuol yng Nghymru. Dyw'r rhan fwyaf o bobl ddim yn credu y bydd hyn yn digwydd iddyn nhw, ond mae cyffuriau a gyrru yn gyfuniad marwol, hyd yn oed os ydych chi'n credu eich bod chi'n iawn i yrru neu heb fod yn rhan o wrthdrawiad wrth yrru dan ddylanwad ar achlysur blaenorol.

“Trwy Ymgyrch Revoke, ar y cyd â'r DVLA, rydyn ni wrthi’n targedu gyrwyr sy'n defnyddio cyffuriau ac yn sicrhau bod eu trwyddedau gyrru'n cael eu dirymu.”

Drwy gydol cyfnod yr ŵyl, bydd yr ymgyrch genedlaethol #OpLimit yn gweld heddluoedd yn defnyddio gwybodaeth leol am fannau problemus i adnabod pobl sy'n gyrru dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol.

Mae gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau yn hunanol ac anfaddeuol. Os ydych chi wedi cymryd alcohol neu gyffuriau, peidiwch â gyrru.

Os ydych chi'n defnyddio cyffuriau, neu os oes gennych bryderon am ddefnydd rhywun arall o gyffuriau, gall cymryd rhan mewn sgwrs deimlo'n anodd, ond mae cymorth ar gael. Mae Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru (DAN 24/7) ar gael i bobl sy'n byw yng Nghymru ac mae ar agor 24 awr y dydd, 365 diwrnod o'r flwyddyn. I gael sgwrs neu gyngor cyfrinachol ar gael mynediad at wasanaethau lleol a rhanbarthol, ffoniwch: 0808 808 2234.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni