Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Cyngor yn gwneud cais am gymorth er mwyn cwblhau ‘Gweledigaeth Economaidd’
- Categorïau : Press Release
- 27 Medi 2021
Mae cais i fusnesau a phreswylwyr ym Merthyr Tudful i gynorthwyo’r Cyngor i gwblhau ei gynllun 15 mlynedd uchelgeisiol er mwyn rhyddhau ‘potensial economaidd gwych’ y fwrdeistref sirol.
Yn sgil ymgynghoriad a gynhaliwyd yn gynharach eleni ar effaith y pandemig, derbyniodd ein tîm datblygu economaidd adborth gwerthfawr a fydd yn gymorth i hysbysu ‘Gweledigaeth Economaidd’ y Cyngor ar gyfer y ddwy ddegawd nesaf.
Mae ail ymgynghoriad, sef yr ymgynghoriad terfynol yn awr yn cael ei gynnal er mwyn pennu os yw’n preswylwyr a’n busnesau’n cytuno â’n cynlluniau neu os ydynt am weld newidiadau fyddai er budd yr economi leol.
“Merthyr Tudful yw’r fwrdeistref sirol leiaf yng Nghymru ond mae ganddi botensial economaidd gwych,” meddai’r Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio, Trawsffurfio a Masnacheiddio.
“Er mwyn esgor ar y potensial hwn, rydym wedi paratoi gweledigaeth economaidd sydd yn dynodi’n dyheadau ar gyfer yr economi leol ac sydd yn esbonio sut y byddwn yn cydweithio â phartneriaid, preswylwyr a busnesau er mwyn creu economi gref a gwydn.”
Mae Swyddogion Adfywio, Refeniw a Buddiannau’r Cyngor wedi cynorthwyo busnesau i sicrhau gwerth £40 miliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru ers y cyfnod clo cyntaf ym Mawrth 2020. Nod y Weledigaeth Economaidd yn awr yw:
• ymateb i’r heriau cymdeithasol ac economaidd a’r cyfleoedd sydd yn ein hwynebu
• cyflawni gofynion deddfwriaeth a pholisi
“Rydym wedi adolygu ein heconomi leol, gyfredol a’r farchnad lafur ac wedi ymgysylltu’n feirniadol â busnesau lleol, sefydliadau cymunedol a’n partneriaid, ledled y fwrdeistref sirol er mwyn deall eu safbwyntiau a’u dyheadau,” ychwanegodd y Cynghorydd Thomas.
“Mae’n Gweledigaeth Economaidd yn disgrifio lle yr ydym am i Ferthyr Tudful fod mewn 15 mlynedd. Ni fyddwn yn cyflawni’r weledigaeth hon dros nos ond byddwn yn nodi cyfeiriad a’r hyn y byddwn am eu cyflawni gyda’n partneriaid.
“Rydym am gynorthwyo twf ein busnesau a denu rhai newydd; rhoi’r sgiliau i bobl gael swydd neu ddechrau busnes; cynorthwyo sefydliadau cymunedol i ffynnu a denu rhagor o ymwelwyr i’n bwrdeistref sirol anhygoel.”
Amcanion y Weledigaeth yw:
• Creu amrywiaeth economaidd – cynyddu gwydnwch ar gyfer heriau’r dyfodol drwy gynorthwyo i greu’r ‘math cywir o fusnesau sydd yn cael eu cynorthwyo gan y math cywir o seilwaith busnes.’
• Sefydlu ‘Cyrchfan Merthyr’ - blaenoriaethu twf ein heconomi i ymwelwyr drwy adeiladu ar y cyfle unigryw y gall ein darpariaeth awyr agored ei chynnig, ein tirwedd naturiol anhygoel a’n diwylliant a’n treftadaeth sydd yn adnabyddus, yn fyd eang.
• Addysg a hyfforddiant – rhoi’r sgiliau angenrheidiol i’n cymuned allu ffynnu yn economi’r dyfodol a rhoi hyder i ddarpar fuddsoddwyr weld mai Merthyr Tudful yw’r lle i ddechrau a datblygu busnes.
• Tai Modern a Lleoedd Gwych – darparu tai ynni effeithlon sydd yn sicrhau fod gan bawb le diogel i alw’n gartref; creu mannau gwyrdd, deniadol sydd yn unigryw i Ferthyr Tudful.
• Trawsffurfio cysylltiadau - cryfhau’n seilwaith digidol a ffisegol er mwyn denu buddsoddwyr, darparu platfform i fusnesau dyfu a sicrhau fod gan bob un o’n preswylwyr fynediad i well cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddi.
• Gwasanaethau cyhoeddus a chymunedol – bod yn flaengar a dyfeisgar yn y modd yr ydym yn darparu gwasanaethau cyhoeddus er mwy sicrhau fod ein cymunedau yn derbyn gwasanaethau’r rheng flaen o’r safon uchaf.
• Adnoddau naturiol ac economi carbon isel – diogelu a gwella’n hadnoddau naturiol, er budd y genhedlaeth bresennol a’r dyfodol.
Dros y 15 mlynedd nesaf, bydd y Cyngor yn paratoi ac yn gweithredu cyfres o gynlluniau gweithredu ar gyfer y gwaith hwn.
“Ni all ein Gweledigaeth Economaidd gael ei darparu gan y Cyngor yn unig, ond yn hytrach mae’n rhaid gweithio mewn partneriaeth â busnesau a sefydliadau cymunedol,” meddai’r Cynghorydd. “Ar y cyd, byddwn yn ffurfio’n cynlluniau gweithredu.”
• Mae’r ymgynghoriad Gweledigaeth Economaidd yn cael ei gynnal o 27 Medi i 11 Hydref.