Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Cyngor yn ymgynghori am gynlluniau gwellianau ymgyfnewid trafnidiaeth

  • Categorïau : Press Release , Council , Corporate
  • 04 Maw 2022
263065373_10159911062773523_7713417204788940760_n

Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn ymgynghori gyda phreswylwyr a busnesau am gynlluniau i wella y ‘corridor’ rhwng y gyfnewidfa fysiau a’r orsaf drenau.

Fel rhan o Gynllun Mawr 15-mlynedd Ganol y Dref sy’n anelu at greu canolfan siopa ,lletygarwch hamdden a busnes ffyniannus, mae’r Cyngor yn edrych ar ffyrdd o wneud y cyswllt rhwng y gwahanol ddulliau o deithio yn fwy atyniadol.

Mae’r cynllun yn rhagweld y bydd sgwariau, ardaloedd natur, ardal glan yr afon fywiog sydd yn ddiogel a chroesawgar i bobl erbyn 2035’.

“Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer gwella'r corridor rhwng y gyfnewidfa fysiau a’r orsaf drenau,” meddai'r aelod Cabinet dros Adfywio, Trawsnewid a Masnacheiddio'r Cyng. Geraint Thomas.

“Rydym yn chwilio am gyswllt atyniadol gyda’r Stryd Fawr isaf, er mwyn gwella ardaloedd natur a gwell mynediad at waelod y dref a gwell orsaf drenau.”

Gallwch gymryd rhan yn ein harolwg byr sy’n dechrau heddiw (Dydd Llun Mawrth 7) tan Ddydd Gwener Mawrth 18, trwy glicio'r Council consults on plans for transport interchange improvements (smartsurvey.co.uk) hon.

Mae copïau papur ar gael o’r redhouse.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni