Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyngor yn cynnal ymgynghoriad ar GDMAC ynghanol tref Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 16 Rhag 2021
PSPO dec 21

Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn ymgynghori â phreswylwyr ynghylch cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (GDMAC) er mwyn atal yfed a chymryd cyffuriau ar y stryd mewn ardal dan waharddiad ynghanol y dref.

Bydd y Gorchymyn yn caniatáu’r Heddlu neu Swyddogion Gorfodi’r Cyngor i gyflwyno hysbysiad cosb penodedig o £100 a gallai methiant i’w dalu arwain at erlyniad a dirwy yn y llys o hyd at £1,000.

Mae’r Cyngor yn gofyn am safbwyntiau’r cyhoedd er mwyn canfod yr effaith y mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn sgil cymryd sylweddau meddwol yn ei gael ar y cyhoedd yn yr ardal dan waharddiad arfaethedig.

Mae’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal hyd at 10 Mawrth 2022 a bydd y GDMAC, petai’n cael ei gymeradwyo yn dod i rym erbyn yr haf nesaf. Gallwch gyfranogi yn ein harolwg byr drwy glicio ar y ddolen hon.

“Bwriad Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yw ymdrin â niwsans neu broblem benodol mewn ardal benodol sydd yn niweidiol i ansawdd bywyd y gymuned leol,” meddai’r Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod Cabinet dros Dai a Diogelu'r Cyhoedd.

“Y prif fanteision yw lleihau yfed a chymryd cyffuriau ar y stryd sydd yn cael effaith negyddol ar gymunedau ac ar yr amgylchedd gan leihau’r defnydd o alcohol a chyffuriau a diogelu unigolion sydd yn agored i niwed.”

 

 

“Y prif fanteision yw lleihau yfed a chymryd cyffuriau ar y stryd sydd yn cael effaith negyddol ar gymunedau ac ar yr amgylchedd gan leihau’r defnydd o alcohol a chyffuriau a diogelu unigolion sydd yn agored i niwed.” 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni