Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Cyngor yn rhewi ffioedd cynnal a chadw caeau chwarae er mwyn helpu clybiau chwaraeon i adfer yn dilyn Covid

  • Categorïau : Press Release , Council
  • 04 Maw 2022
Football pitch

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi cytuno i rewi ffioedd cynnal a chadw caeau chwarae am dair blynedd er mwyn rhoi cyfle i glybiau adfer yn dilyn y pandemig.

Yr wythnos yma, mewn cyfarfod, pleidleisiodd y Cyngor i gael gwared â’r holl ffioedd- gwerth tua £40,000 y flwyddyn i’r awdurdod- tan 2025/26, ar ôl i aelodau glywed bod adolygiad o gaeau chwarae wedi nodi pryder am ffioedd caeau chwarae blynyddol a bod rhai clybiau yn wynebu caledi ariannol neu hyd yn oed orfod diddymu.

“Mae Merthyr Tudful yn dioddef problemau tlodi a gorbwysau ac mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi cenedlaethau'r dyfodol i fyw bywyd iachach,” meddai'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Trawsnewid a Masnacheiddio'r Cyng. Geraint Thomas.

“Hefyd, mae’n bwysig nodi bod gennym record dda o gynhyrchu pencampwyr chwaraeon- yn enwedig chwaraewyr rygbi a phêl droed- a dydyn ni ddim eisiau i broblemau'r clybiau ar lawr gwlad a’r cyfleusterau sydd ar gael effeithio ar lwyddiannau posib at y dyfodol.”

Comisiynwyd yr arolwg cyfleusterau chwaraeon, caeau chwarae allanol yn bennaf gan Dîm Merthyr Heini'r Cyngor yn niwedd 2019 mewn cydweithrediad gyda chlybiau lleol. 

Clywodd yr aelodau mewn adroddiad gan swyddogion ei bod yn amlwg bod nifer o faterion yn codi pryder am gostau ffioedd blynyddol y caeau chwarae gyda nifer o glybiau yn wynebu caledi ariannol neu hyd yn oed wynebu gael eu diddymu.

Cytunodd yr Aelodau na fyddai Adran y Parciau ddim yn codi tâl am gynnal a chadw blynyddol tan y flwyddyn ariannol 2025/26 er mwyn rhoi amser i’r clybiau dyfu heb y boen meddwl ariannol am gostau.

Mae Tîm Merthyr Heini yn gweithio ochr yn ochr â darparwyr chwaraeon o glybiau chwaraeon gwirfoddol i fusnesau preifat. Mae’r gwaith yn cynnwys gwell ddealltwriaeth o anghenion datblygu a chynnig cefnogaeth ar y cyd i wella'r ddarpariaeth bresennol.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni