Ar-lein, Mae'n arbed amser
Arweinydd y Cyngor yn galw am drafodaethau brys gyda Stagecoach
- Categorïau : Press Release
- 18 Awst 2022
Mae arweinydd y Cyngor Bwrdeistref Sirol wedi galw am drafodaethau brys gydag arweinwyr economi a thrafnidiaeth Cymru oherwydd y problemau parhaus gyda bysiau Stagecoach ym Merthyr Tudful.
Mae’r Cyng. Geraint Thomas wedi cysylltu gyda Phrif Weithredwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Rhanbarth Caerdydd a Chadeirydd Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Rhanbarth Caerdydd er mwyn ceisio trefnu cyfarfod i drafod y prinder gyrwyr a bysiau.
Mae’r Fargen Dinas yn rhaglen gwaith a thwf economaidd gwerth £1.28 biliwn yn cynnwys 10 awdurdod lleol de Cymru, tra bod yr Awdurdod Trafnidiaeth Ranbarthol yn gyfrifol am gydlynu cynllunio trafnidiaeth a buddsoddiad ar draws y rhanbarth.
Dwedodd y Cyng. Thomas, sy’n cynrychioli Merthyr Tudful ar yr Awdurdod Trafnidiaeth: “Ers y pandemig Coronafeirws, mae gwasanaethau bysiau ym Mhrifddinas-Rhanbarth Caerdydd wedi eu heffeithio yn sylweddol- yn arbennig felly yng nghymunedau’r cymoedd.
“Er derbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru trwy sawl Cynllun Cefnogaeth Bysiau Brys , mae’r nifer teithiau bysiau sy’n cael eu canslo yn ddyddiol yn frawychus. Mae pobl yn methu mynd i’w gwaith na mynychu apwyntiadau meddygol.”
Cyfarfu'r Cyng. Thomas yn ddiweddar gydag Aelod y Senedd, Dawn Bowden a Gerald Jones AS, a swyddogion y Cyngor, a chytunwyd i weithio gyda’n gilydd er mwyn sicrhau gwell gwasanaeth bysiau i bobl Merthyr Tudful.
Yn dilyn cyfarfod pellach rhwng y gwleidyddion a Stagecoach, cafwyd sicrhad gan y cwmni eu bod yn gweithredu i recriwtio mwy o staff ac ailgyflwyno rhai o’r gwasanaethau a gollwyd dros y misoedd diwethaf gydag amserlen newydd erbyn diwedd mis Hydref a ‘gwelliant parhaus’.
“Yn fy swydd fel Arweinydd y Cyngor, ysgrifennaf atoch i ofyn a gallwn gynnal gweithdy/ cynhadledd fysiau brys ATRh ym mis Medi i drafod yr heriau difrifol a’r pwysau cynyddol yn ystod y flwyddyn ariannol hon a’r nesaf,” dwedodd y Cyng. Thomas yn ei lythyr.
Mae’r Cyngor yn gweithio gyda’r Gymdeithas Drafnidiaeth a Chymdeithas Awdurdodau Lleol Cymru wrth ymateb i ymgynghoriad deddfwriaeth bysiau Llywodraeth Cymru.
Bydd hyn yn edrych ar greu system newydd masnachfraint bysiau er mwyn darparu model mwy cynaliadwy a chyffredinol.
“Rydym am gynnal gwaith brys er mwyn sicrhau ein bod wedi deall y math o wasanaeth bysiau yr hoffem ei weld ar rwydwaith bysiau Merthyr Tudful yn y dyfodol,” meddai’r Cyng. Thomas.