Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae swyddogion y cyngor wedi cwrdd â SWTRA i trafod cwynion sŵn

  • Categorïau : Press Release , Council
  • 11 Mai 2021
default.jpg

Cyfarfu swyddogion Iechyd yr Amgylchedd CBSMT, cynrychiolwyr Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) a chynghorwyr ward Penydarren a Dowlais ar Microsoft Teams yr wythnos ddiwethaf i drafod pryderon preswylwyr lleol ynghylch Depo SWTRA ar Heol Melin yr Afr (Ysgubor Halen.) 

Mae’r safle ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio gan isgontractwyr fel canolfan storio a llesiant trwy gydol y nos tra bod gwaith yn cael ei wneud ar yr A470.

Yn y cyfarfod, rhoddodd SWTRA drosolwg o’r prosiect a’i fanteision yn yr hirdymor i’r ardal leol, yn ogystal â’r strategaeth lliniaru sŵn y maent yn bwriadu ei gweithredu er mwyn sicrhau fod sŵn yn cael ei gadw i’r isafswm posib.

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd SWTRA yn dosbarthu llythyron i breswylwyr er mwyn rhoi trosolwg iddynt o’r prosiect a manylion cyswllt uniongyrchol y swyddogion  cyswllt cymunedol sydd yn gysylltiedig â’r prosiect.

Bydd ein swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a’n cynghorwyr ward yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â SWTRA ac mae cyfarfod arall wedi ei drefnu ar gyfer y mis nesaf er mwyn adolygu’r strategaeth lliniaru sŵn a thrafod unrhyw bryderon.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni